British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 27 Awst 2011, 12:07 GMT 13:07 UK
Y cledrau newydd a'r hen fysus

Lleoliad estyniad y rheilffordd o Garrog i Corwen
Bydd cyfle i weld lleoliad estyniad y rheilffordd o Garrog i Corwen

Mae pobl leol yn cael cyfle i weld lleoliad cledrau newydd wrth deithio ar hen fws Crosville i Gorwen dros y penwythnos.

Ar hyn o bryd mae Rheilffordd Llangollen yn mynd i Garrog ond erbyn diwedd 2012 fe fydd teithwyr yn gallu cyrraedd Corwen.

Mae'n ganrif ers i Fysus Crosville ddechrau, un o brif gwmnïoedd cludiant yr ardal.

"Oherwydd bod canolfan Crosville yng Nghorwen bydd yr achlysur yn un llawn hiraeth yn ogystal â bod yn gyfle i dynnu sylw at y gwasanaeth trên," meddai George Jones o Reilffordd Llangollen.

Bydd y gwasanaeth bws arbennig yn dod i ben yn y maes parcio yng Nghorwen nid nepell o le bydd yr orsaf drên newydd yn cael ei chodi.

Roedd y daith yn hanesyddol gywir, meddai, oherwydd i fysiau cael eu defnyddio yn lle trenau ym 1964 pan oedd llifogydd ar y cledrau.

Bydd hefyd arddangosfa hen gerbydau modur mewn cae gyferbyn â Gorsaf Glyndyfrdwy.



HEFYD
£500,000 i ymestyn rheilffordd
05 Chwef 11 |  Newyddion
Cynllun i ehangu rheilffordd stêm
05 Ion 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific