British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 26 Awst 2011, 14:41 GMT 15:41 UK
E.coli: Cyfanswm o naw achos erbyn hyn

Siop Kebeb Adonis yng Nghaerdydd
Fe gafodd y siop ganiatâd i ailagor

Mae swyddogion iechyd wedi cadarnhau bod 'na achos arall o E. coli O157 yn ne Cymru.

Ac mae'r achos diweddara'n yn ymwneud ag un o'r bobl oedd o dan ymchwiliad, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae naw achos arall yn cael eu hymchwilio a does neb yn yr ysbyty.

Yn y cyfamser, mae tîm o arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Caerdydd, Cyngor Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bro Morgannwg, yn ymchwilio i achosion yr E. coli.

Roedd siop Adonis Kebab House yn Heol y Ddinas yn Y Rhath, Caerdydd, wedi ei chau dros dro rhag ofn i'r haint ledu.

Penderfynodd Cyngor Caerdydd osod mwy o amodau ar y bwyty wrth i'r ymchwiliad barhau.

Ail-agor

Ar ôl i Swyddog Diogelwch Bwyd Cyngor Caerdydd fynd i'r siop ddydd Iau fe roddwyd caniatâd i ailagor y siop.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oedd risg i iechyd y cyhoedd yn y siop bellach.

Roedd y bwyty wedi ei archwilio ar Orffennaf 22 gan gyrraedd Sgôr Hylendid Bwyd o un allan o bump.

E.coli 0157
Gall unigolion gael E.coli O157 ar ôl bwyta bwyd neu ddŵr wedi ei heintio

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gofyn i unrhyw un sydd wedi bod mewn cysylltiad ag Adonis Kebab House ers dydd Llun, Gorffennaf 18, i helpu'r ymchwiliad drwy lenwi ffurflen ar eu gwefan a'i hanfon atyn nhw.

Mae 67 o bobl eisoes wedi rhoi manylion i Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd Dr Gwen Lowe, ymgynghorydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r ymchwiliad yn parhau ac rydyn ni'n cadw llygad craff ar y sefyllfa.

"Er ein bod ar ddiwedd y cyfnod heintus mae'n bosib y bydd mwy o achosion.

"Mae E. coli O157 yn haint ddifrifol."

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, gall y salwch amrywio o ddolur rhydd ysgafn i ddolur rhydd gwaedlyd a gall crampiau difrifol yn y stumog gyd-fynd â hyn.

Mesurau diogelwch

Cymhlethdod difrifol o'r haint yw Syndrom Wremig Hemolytig sy'n digwydd ymysg hyd at 10% o gleifion sydd wedi cael eu heintio â VTEC O157.

Mae'n effeithio'n benodol ar blant ifanc ac ar bobl oedrannus ac, mewn nifer fach o achosion, gall fod yn angheuol.

Mae mesurau rheoli digonol ac arferion hylendid da yn bwysig i atal heintiau gan E. coli O157, ac mae'r rhain yn cynnwys:

Golchi dwylo'n drylwyr cyn bwyta neu baratoi bwyd, ar ôl defnyddio'r toiled, ar ôl newid cewynnau neu lanhau ar ôl pobl eraill sy'n dioddef dolur rhydd;

Sicrhau bod cig, yn enwedig briwgig cig eidion, yn cael ei goginio'n drylwyr (gall cig gael ei halogi yn ystod y lladd, a gall organebau gael eu cymysgu i'r cig yn anfwriadol wrth wneud y briwgig);

Trafod, paratoi a storio cig amrwd a chynhyrchion eraill anifeiliaid mewn modd hylan a sicrhau nad yw cigoedd amrwd a'r offer a ddefnyddir i'w trafod yn dod i gysylltiad â chig wedi'i goginio na bwyd parod.

Dylai unrhyw un sydd â symptomau gysylltu â meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647.



HEFYD
E.coli: Cadarnhau un achos arall
19 Awst 11 |  Newyddion
E.coli: Dim achosion newydd
15 Awst 11 |  Newyddion
E. coli: Dau achos arall
13 Awst 11 |  Newyddion
E. coli: Disgwyl mwy o achosion
13 Awst 11 |  Newyddion
Ymchwiliad i achosion o E. coli
12 Awst 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific