Mae dwy nofel Gymraeg eisoes ar y Kindle
|
Mae cwmni cyhoeddi wedi datgan eu rhwystredigaeth am nad yw cwmni Amazon yn "gallu cyhoeddi llyfrau Cymraeg" ar y Kindle. Dywedodd Gwasg Y Lolfa eu bod nhw wedi gofyn i Amazon werthu eu llyfrau ar ffurf electroneg ar y peiriant ers Nadolig 2010. Mae neges e-bost Amazon at gwmni'r Lolfa, y mae BBC Cymru wedi ei gweld, wedi dweud nad yw eu systemau "yn gallu cynnal cyhoeddi llyfrau yn y Gymraeg" ar hyn o bryd. Dywedodd y wasg nad oedd hynny'n hollol wir am fod dwy nofel Gymraeg a gyhoeddwyd ganddyn nhw eisoes ar werth ar y peiriant. Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb Amazon.
 |
Mae Amazon wedi dweud y byddai rhaid iddyn nhw gyflogi siaradwyr Cymraeg i brawfddarllen y llyfrau cyn iddyn nhw gael eu gosod ar y safle
|
Mae'r cwmni cyhoeddi o Dalybont yng Ngheredigion wedi dweud bod y galw am lyfrau Cymraeg ar werth ar y Kindle yn cynyddu. Yn ôl rheolwr cyffredinol y cwmni, Garmon Gruffydd, fe fu llawer o bobl yn ymweld â'u stondin ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn gofyn pam nad oedd llyfrau Cymraeg ar gael ar y Kindle. 'Gwrthod' "Cysyllton ni ag Amazon y llynedd gan ofyn iddyn nhw werthu ein llyfrau Cymraeg ar y Kindle," meddai. "Gwrthodon nhw ein cais, gan ddweud nad oedd eu systemau yn gallu cynnal cyhoeddi llyfrau yn y Gymraeg. "Ond mae nofelau Lleucu Roberts a Lloyd Jones ar werth ar y Kindle ers dechrau'r flwyddyn ac mae nofel Lleucu Roberts wedi gwerthu 10 copi ar system Kindle y mis hwn yn unig. "Yn amlwg, mae pobl Amazon wedi meddwl bod y nofelau yn ddau o'r llyfrau Saesneg wnaethon ni anfon atyn nhw ac wedi eu gosod ar y Kindle ar hap. "Ond mae hyn yn profi bod systemau Amazon yn gallu cynnal cyhoeddi llyfrau Cymraeg." 'Adolygu' Roedd Amazon wedi dweud wrth y wasg eu bod yn "adolygu'r sefyllfa er mwyn gallu ehangu darpariaeth y llyfrau mewn sawl iaith a chynyddu nifer y cyhoeddiadau sydd ar gael". Dywedodd Mr Gruffydd fod Amazon wedi dweud wrthwyn nhw y byddai'n rhaid iddyn nhw gyflogi siaradwyr Cymraeg i brawfddarllen y llyfrau cyn iddyn nhw gael eu gosod ar y safle. "Rwy'n mawr obeithio mai dyma fydd y cam nesaf oherwydd mae'n bwysig fod y Gymraeg yn cael yr un statws ag ieithoedd eraill." Mae teclyn y Kindle wedi ei ddatblygu gan gwmni Amazon fel y gall pobl ddarllen llyfrau ar ffurf electroneg.
|