British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 26 Awst 2011, 10:15 GMT 11:15 UK
Stadiwm Bangor: Gwaith wedi dechrau

Ffordd Farrar
Mae Ffordd Ffarar wedi bod yn gartref i glwb pÍl droed Dinas Bangor er 1920

Mae cadeirydd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi datgan bod gwaith adeiladu eu stadiwm newydd wedi dechrau.

Mae pencampwyr Cynghrair Cymru wedi ceisio symud o'u cartref yn Ffordd Farrar ers degawd.

Yn ôl Dilwyn Jones fe ddylai'r stadiwm newydd ar gyfer 3,000 o gefnogwyr yn Nantporth, gael ei gwblhau erbyn mis Ionawr 2012.

Ond mae hyn yn golygu y bydd rhaid i'r clwb symud o Ffordd Farrar i Nantporth yng nghanol y tymor pêl droed.

Yn amlwg dyw hyn ddim yn sefyllfa ddelfrydol ond does genyn ni ddim llawer o ddewis oherwydd y gost o gynnal yr hen stadiwm
Dilwyn Jones

Cyfaddefodd Mr Jones y byddai symud o un stadiwm i'r llall yng nghanol y tymor yn "her".

Bydd stadiwm Ffordd Farrar, sydd wedi bod yn gartref i glwb pêl-droed Bangor ers 1920, yn cael ei ddymchwel ac fe fydd archfarchnad yn cael ei godi ar y safle.

Seddi dan do

"Mae'n newyddion da i glywed fod y gwaith yn mynd yn ei flaen wedi blynyddoedd o ansicrwydd," meddai Mr Jones.

"Rydyn ni'n disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn mis Ionawr 2012.

"Yn amlwg dyw hyn ddim yn sefyllfa ddelfrydol ond does genyn ni ddim llawer o ddewis oherwydd y gost o gynnal yr hen stadiwm."

Bydd lle i 3,000 o gefnogwyr yn y stadiwm newydd gan gynnwys 600 o seddi dan do a 200 o seddi yn yr awyr agored.

Ychwanegodd Mr Jones fod bwrdd rheoli'r clwb yn cynnal trafodaethau â chymdeithas cefnogwyr y clwb yn rheolaidd ac y byddai'n ateb unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r datblygiad yn ystod cyfarfod nesa'r gymdeithas.



HEFYD
Swyddi ar gae pÍl-droed?
24 Tach 10 |  Newyddion
Stadiwm newydd gam yn nes
14 Chwef 07 |  Newyddion
Cae pÍl-droed i gael ei ddymchwel
31 Gorff 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific