Y gwasanaeth ddim yn perfformio'n dda, yn ôl y cyngor
|
Mae cannoedd o bobl wedi ymateb i ymgynghoriad ynglŷn â chynlluniau i gau hyd at saith llyfrgell yn Sir Conwy. Mae'r ymgynghoriad ynglŷn â dyfodol 12 llyfrgell y sir yn dod i ben ddydd Gwener ac mae bron i 300 o ffurflenni adborth wedi'u hanfon at y cyngor. Mae'r cyngor sir yn ystyried dau opsiwn - i gau un ai pump neu saith o'r 12 llyfrgell sydd yn y sir. Byddai gweithredu'r opsiwn cyntaf yn golygu bod llyfrgelloedd Bae Cinmel, Cerrigydrudion, Deganwy, Cyffordd Llandudno, Llanfairfechan, Penmaenmawr a Bae Penrhyn yn cau. Cyflwr gwael Y pum llyfrgell a fyddai'n cau pe bai'r ail opsiwn yn cael ei ddewis fydd Deganwy, Cyffordd Llandudno, Bae Cinmel, Llanfairfechan a Bae Penrhyn. Honnwyd yn un o gyfarfodydd y cyngor y llynedd bod y gwasanaeth yng Nghonwy yw un o'r rhai sy'n perfformio gwaethaf yng Nghymru.
 |
LLYFRGELLOEDD SIR CONWY
Abergele
Bae Cinmel
Bae Colwyn
Bae Penrhyn
Cerrigydrudion
Conwy
Cyffordd Llandudno
Deganwy
Llandudno
Llanfairfechan
Llanrwst
Penmaenmawr
|
Dywedodd y cyngor nad oedd digon o amrywiaeth o lyfrau, dim digon o staff a bod adeiladau mewn cyflwr gwael. Penderfynodd y cyngor lansio ymgynghoriad gan adael i ddefnyddwyr gael cyfle i leisio barn. Dywedodd aelod cabinet Cyngor Sir Conwy sy'n gyfrifol am gymunedau, Goronwy Edwards: "Rwy'n annog pobl i ymateb gan lenwi ffurflen adborth i sicrhau bod cymaint o syniadau â phosib yn cael eu cynnig." Hyd yn hyn mae'r cyngor sir wedi derbyn 291 ffurflen adborth gan y cyhoedd.
|