Mae'r cwmni yn cyflogi 221 o weithwyr.
|
Mae chwarelwyr llechi wedi pleidleisio o blaid gweithredu yn ddiwydiannol mewn anghydfod cyflog. Cyflogir 211 o weithwyr gan gwmni Welsh Slate mewn pedair chwarel yn y gogledd. Mae undeb Unite yn cynrychioli 164 o'r gweithwyr. Dywedodd llefarydd fod 81% wedi pleidleisio o blaid gweithredu. Dywed y cwmni fod cyflogau'r gweithwyr, gan gynnwys tal bonws, wedi cynyddu 12% ers i'r perchnogion presennol brynu'r cwmni am £31m yn 2007. Y pedair chwarel yw Penrhyn (Bethesda) , Blaenau Ffestiniog, Pen yr Orsedd a Cwt-y-Bugail. Yn gynharach y mis hwn cyhoeddodd y cwmni eu bod yn allforio mwy o'u cynnyrch nag erioed. Datganodd y cwmni eu bod nhw'n allforio 40% o'u cynnyrch llechi to dros y môr. Dywedodd Alan Smith, Rheolwr Gyfarwyddwr Welsh Slate mai dyma'r canlyniad allforio gorau am o leia' 50 mlynedd. Ymysg y prosiectau adnewyddu sy'n defnyddio llechi'r cwmni yw Ayers House yn Adeilade ac Amgueddfa'r Crynwyr yn Boston, Massachusetts.
|