Bydd Only Men Aloud yn canu nos Sul
|
Bydd rhai o brif artistiaid Cymru yn perfformio mewn gŵyl am y tri diwrnod nesaf fydd hefyd yn codi arian ar gyfer achosion da. Rhydian Roberts yw'r prif artist ar gyfer noson gyntaf Gŵyl Gobaith sy'n cael ei chynnal ar gampws Prifysgol Glyndŵr yn Llaneurgain Sir y Fflint. Bydd arian y noson yn mynd at gronfeydd elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Hon yw'r drydedd flwyddyn i'r ŵyl gael ei chynnal. Elusen Y tenor Rhys Meirion sefydlodd yr ŵyl er mwyn helpu achosion da lleol a hybu cerddoriaeth yn y gogledd-ddwyrain.
Dyma'r drydedd flwyddyn i'r Wyl gael ei chynnal
|
Tri Tenor Cymru, sef Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins, fydd prif berfformwyr nos Sadwrn, a'r elusen fydd yn elwa fydd Uned Ganser Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan. Côr Only Men Aloud fydd perfformwyr olaf yr Ŵyl ar nos Sul a'r elusen fydd yn derbyn cymorth ariannol yw Clic, elusen ar gyfer plant gyda chanser. Dywedodd Anna Evans, Rheolwr corfforaethol Ambiwlans Awyr Cymru eu bod yn falch iawn i fod yn gysyltleidg gyda'r ŵyl eleni. 'Gwych' "Mae'r artisitaid yn rhai gwych ac rydym yn benderfynol o ddathlu ein 10 mlynedd gyda chyngerdd arbennig. "Mae Rhydian Roberts yn un o artisitiad mwya Cymru ac rydym yn falch o'i gael yn ein parti pen-blwydd." Dywedodd llefarydd ar ran yr ŵyl fod mynd mawr ar docynnau nos Wener a nos Sul. Mae modd prynu tocynnau o flaen llaw yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug.
|