British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 25 Awst 2011, 12:23 GMT 13:23 UK
Costau gofal: 'Annerbyniol'

Menyw a nyrs
Yn ôl y Ceidwadwyr, mae angen adolygu 2,450 o geisiadau

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn honni bod Llywodraeth Cymru o dan bwysau wrth geisio delio â cheisiadau pobl sy'n hawlio costau gofal nyrsio, costau y dylai'r Gwasanaeth Iechyd fod wedi eu talu.

Yn ôl y blaid, mae angen i'r byrddau iechyd adolygu 2,450 o geisiadau, y mwyafrif ohonyn nhw wedi eu cyflwyno cyn 2003.

Mae'r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi cadarnhau bod trefniadau mewn lle i ddelio â cheisiadau ôl-weithredol erbyn Mehefin 2014.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew R T Davies, fod y sefyllfa'n annerbyniol, bod cymaint o gleifion neu eu perthnasu wedi aros am 10 mlynedd am ymateb i'w ceisiadau ad-dalu.

'Iawndal'

"Mae nifer o deuluoedd wedi dioddef poen meddwl am fod eu ceisiadau wedi bod mewn 'tagfa' am gymaint o amser.

"Dyw rhai o'r cleifion ddim wedi byw yn ddigon hir i gael iawndal.

"Mae'r 'dagfa' yn golygu bod y llog ar ddyled y bydd rhaid i drethdalwyr ei dalu yn codi bob dydd.

"Erbyn hyn mae'r swm yn llawer uwch na'r £2.5m gofnodwyd 18 mis yn ôl.

Tawelu meddyliau

"Ni fydd ceisiadau llawer o bobl yn cael eu hystyried tan 2014."

Dywedodd fod angen i weinidogion dawelu meddyliau pobl a dweud y byddai'r holl geisiadau yn cael eu hystyried cyn mis Mehefin 2014.

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud: "Mae cadeiryddion annibynnol, ymgynghorwyr clinigol ac arolygwyr arbenigol wedi'u hapwyntio i sicrhau bod y broses yn cael ei rheoli'n deg ac yn effeithiol, gan sicrhau bod teuluoedd yn cael yr ad-daliadau y maen nhw'n ei haeddu.

"Mae'r trefniadau newydd yn fwy hyblyg o ran prawf bod taliad wedi ei wneud os yw amgylchiadau hawlwyr yn arbennig."



HEFYD
Trafod cost gofal i'r henoed
22 Meh 01 |  Newyddion
Pris gofal yn cythruddo teuluoedd
30 Maw 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific