British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 25 Awst 2011, 13:55 GMT 14:55 UK
FIFA: Cymru wedi syrthio i safle 117

Gary Speed
Colli wnaeth tm Gary Speed yn erbyn Awstralia yn gynharach yn y mis

Mae Cymru wedi wynebu ergyd pellach wedi i restr detholion timau pêl-droed FIFA gael eu cyhoeddi.

Mae Cymru wedi gostwng 5 safle i rif 117.

Yn y rhestr a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher mae tîm Gary Speed y tu ôl i dimau Azerbaijan, Guatemala, Guyana a Haiti.

Ym mis Gorffennaf fe wnaeth Ynysoedd y Faroe fynd yn uwch na Chymru.

O ganlyniad roedd Cymru yn y pot olaf ar gyfer dewis timau ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan Pêl-Droed y Byd yn Brasil.

RHESTR FIFA AWST 2011
1 Yr Iseldiroedd
2 Sbaen
3 Yr Almaen
4 Lloegr
5 Uruguay
31 Gweriniaeth Iwerddon
55 Yr Alban
59 Gogledd Iwerddon
111 Ynysoedd Y Faroe
116 Haiti
117 CYMRU

Mae Lloegr wedi codi dau safle o'r chweched i'r pedwerydd ac mae'r Alban yn 55 a Gogledd Iwerddon yn safle 59.

Roedd Robert Earnshaw wedi herio ei gyd-chwaraewyr i brofi eu bod yn well na'u safle yn y rhestr cyn i'r tîm golli 2-1 yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn gynharach yn y mis.

Mae gan Gymru dipyn o dasg ar gyfer cyrraedd Cwpan y Byd yn 2014 wrth iddyn nhw wynebu Macedonia, Gwlad Belg, Serbia, Coratia a'r Alban.

Mae Gweriniaeth Iwerddon wedi codi i safle 31 ac mae Yr Iseldiroedd wedi disodli Sbaen oedd ar frig y rhestr.

Syrthio un safle i'r chweched lle wnaeth Brasil.

Mae tîm Merched Cymru yn aros yn safle 47.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific