Cafodd capten tîm rygbi Cymru a'r Scarlets lawdriniaeth lwyddiannus ar ei wddw. Mae disgwyl na fydd Matthew Rees yn holliach i chwarae am 10 wythnos yn ôl hyfforddwr y rhanbarth Nigel Davies. Oherwydd yr anaf doedd Rees ddim yn gallu cael ei ystyried ar gyfer y daith i Seland Newydd i gystadlu ym Mhencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd. Cafodd frechiadau lladd poen i geisio parhau yn y garfan a fydd yn gadael ar Awst 31. Ond roedd rhaid iddo dynnu allan. "Fe aeth y driniaeth yn dda iawn," yn ôl Davies. 'Dewisiadau' "Mae Matthew yn dda iawn ac rydym yn gobeithio y bydd yn ôl yn chwarae o fewn wyth i 10 wythnos." Mae Rees yn gobeithio dychwelyd ar gyfer gêm y Scarlets yn erbyn Y Gweilch ar Dachwedd 5 cyn iddyn nhw gychwyn ar eu hymgyrch yng Nghwpan Heineken yn erbyn Castres. Oherwydd yr anaf i Rees mae bachwr arall y Scarlets Ken Owens wedi ei gynnwys yng ngharafán Cymru. Ond dywedodd Davies fod ganddo "sawl opsiwn" ar gyfer y safle gydag Emyr Phillips, Craig Hawkins a Kirby Myhill yn barod ar gyfer y tîm cyntaf.
|