British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 25 Awst 2011, 08:21 GMT 09:21 UK
Cefnogwyr yn cefnogi prynu clwb pÍl-droed Wrecsam

Clwb PÍl-Droed Wrecsam
Mae'r clwb wedi wynebu cyfnod anodd iawn yn ddiweddar

Mewn cyfarfod arbennig nos Fercher pleidleisiodd aelodau Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam o blaid ceisio prynu'r clwb.

Bydd bwrdd yr ymddiriedolaeth yn parhau felly a'u trafodaethau gyda'r perchnogion presennol, awdurdodau pêl-droed a Phrifysgol Glyndŵr, sy bellach yn berchen ar y Cae Ras.

Mae 'na obaith y gallen nhw brynu'r clwb o fewn tri mis oddi wrth Geoff Moss ac Ian Roberts.

Ond mae 'na rybudd bod arian yn dynn a bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd.

Roedd y bleidlais yn unfrydol yn y cyfarfod sy'n gam tuag at ddiwedd cyfnod anodd i'r clwb gyda dros 400 o gefnogwyr ar eu traed i gymeradwyo a dathlu'r penderfyniad.

Dywedodd Spencer Harris, un o gyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth fod y gefnogaeth wedi bod yn wych.

Trafodaethau

"Mae'r ymddiriedolwyr, pobl Wrecsam a phobl gogledd Cymru wedi bod yn wych.

"Mae'n ganlyniad arbennig.

"Fe fydd yn cymryd peth amser wrth i ni gwblhau trafodaethau ac mae angen bodloni'r gynghrair a Chymdeithas Bêl-Droed Lloegr.

"Dwi'n gobeithio y daw'r trafodaethau i ben yn fuan fel y gallwn symud ymlaen i'r dyfodol."

Mae'r cynnig sy'n cael ei gefnogi gan yr aelodau yn caniatáu i'r bwrdd fuddsoddi £100,000 yn syth yn y cwmni newydd, Wrexham AFC Ltd.

Roedd 'na bleidlais hefyd yn caniatáu i'r bwrdd fuddsoddi £650,000 arall cyn diwedd y tymor.

Mae'r ymddiriedolaeth yn gweithio ar sail y bydd dros 3,000 o gefnogwyr yno ar gyfer pob gêm a ddim yn disgwyl arian ychwanegol o gemau cwpan.

Y rhagolygon yw y bydd y gwir golledion yn £500,000.

Yn gynharach yn y mis fe lwyddodd y cefnogwyr i godi dros £100,000 mewn diwrnod er mwyn bond o £250,000 oedd ei angen ar gyfer talu'r Gynghrair Bêl-Droed i sicrhau y bydd y clwb yn gallu chwarae yn nhymor 2011-12.

Yn gynharach eleni fe wnaeth Prifysgol Glyndŵr brynu'r Cae Ras a maes ymarfer y chwaraewyr ym Mharc y Colier.

Mae trafodaethau yn parhau gyda'r perchnogion newydd am rentu'r maes.



HEFYD
Wrecsam: Caniat‚d i gychwyn y tymor
10 Awst 11 |  Newyddion
Clwb: Rhaid argyhoeddi Cynghrair
08 Awst 11 |  Newyddion
Gwerthu'r Cae Ras i Brifysgol
05 Awst 11 |  Newyddion
Clwb: Chwaraewyr heb gyflogau
28 Gorff 11 |  Newyddion
Dyfodol clwb Wrecsam 'mewn peryg'
14 Gorff 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific