British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 25 Awst 2011, 11:37 GMT 12:37 UK
Cyngor sir: Dadl yn poethi

John Davies, Arweinydd Cyngor Sir Penfro
Roedd John Davies yn credu bod rhaid ymateb i'r feirniadaeth

Mae arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd John Davies, wedi honni bod gweinidogion Llafur yn "targedu" cynghorau y mae Aelodau Annibynnol yn eu rheoli.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd ganddyn nhw sylw.

Dydd Mercher fe anfonodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, a Gwenda Thomas, y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, lythyr at arweinydd y cyngor sir.

Yn gynharach yn y mis cafodd dau adroddiad eu cyhoeddi, un yn cyfeirio at fethiannau difrifol yn y trefniadau gwarchod plant a'r llall yn feirniadol iawn o ansawdd gwasanaethau addysg y sir.

'Ddim yn gywir'

Mae'r llythyr wedi honni bod uchel-swyddogion ac arweinwyr y cyngor wedi gwneud datganiadau camarweiniol.

Ond honnodd arweinydd y cyngor sir nad oedd rhai o'r honiadau'n "ffeithiol gywir".

Dywedodd Mr Davies y gallai'r berthynas rhwng cynghorau a gweinidogion effeithio'n fawr ar wasanaethau.

"Ers misoedd mae dirywiad sylweddol wedi bod yn y berthynas ac mae hyn yn drist."

Mae'r gweinidogion wedi cyhuddo'r cyngor o warchod enw da'r cyngor yn hytrach na gwarchod plant.

Ac mae'r llythyr yn cyfeirio at "nifer o gyfweliadau gyda'r cyfryngau" ac awgrymiadau nad oedd y materion dan sylw mor ddifrifol â hynny.

'Adrodd yn ôl'

Mewn cyfweliad ar BBC Cymru dywedodd Mr Andrews y byddai bwrdd ymgynghorol gweinidogol yn ystyried ymateb y sir cyn hir.

Pan holwyd y gweinidog ynglŷn â phwerau i ymyrryd yn uniongyrchol yn nyletswyddau'r cyngor dywedodd: "Ni fydda i'n rhoi sêl bendith na chwaith yn diystyru unrhyw gamau posib tan i'r bwrdd ymgynghorol adrodd yn ôl.

"Petawn i'n rhiant yn Sir Benfro fe fyddwn i eisiau gweld arweinydd y cyngor yn diogelu buddiannau'r plant nid enw da'r cyngor," ychwanegodd.

Dywedodd Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick, ei bod yn "anarferol i weinidog fod mor ddi-flewyn ar dafod - hyd yn oed Leighton Andrews sydd â thipyn o enw am fod yn ddi-flewyn ar dafod wrth sôn am gorff etholedig eraill.

SYLW VAUGHAN RODERICK
"Mae rhai o fewn llywodraeth leol yn dweud bod 'na agendau ehangach gan Lywodraeth Cymru yn yr achos yma. Yn sicr, dwi'n meddwl bod 'na berthynas sydd o dan straen rhwng y llywodraeth a'r cynghorau.

"Rydyn ni wedi gweld beth sydd wedi digwydd yn Ynys Môn a Blaenau Gwent, ac yn nhyb rhai ym myd llywodraeth leol, mae Estyn nawr yn llawer mwy beirniadol o awdurdodau addysg nag yr oedd yn y gorffennol. Mae hyn yn wir ac o safbwynt y cynghorau, maen nhw'n gweld hynny fel rhan o agenda - falle bod 'na ormod o ddylanwad gan y llywodraeth dros Estyn a bod y llywodraeth yn ceisio braenaru'r tir ar gyfer rhyw fath o newid yn y gyfundrefn addysg, drwy sefydlu rhyw fath o gyfundrefn ranbarthol.

"O ran y llywodraeth, yn breifat maen nhw'n dweud: 'Na, yr hyn sydd wedi digwydd yw bod Estyn yn gwneud eu gwaith … rhaid i gynghorau ymddwyn yn well a chyflawni safonau uwch i gael marciau uwch'."

"Cafodd y llythyr ei anfon yn bersonol at John Davies, sydd hefyd yn Gadeirydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac fe'i cafodd tua'r un pryd a'r cyfryngau.

"Roedd yn dipyn o sioc iddo ac roedd y cyngor wedi dweud y byddai'n ymateb yn ysgrifenedig."

'Personol'

Ond wrth i'r stori ddatblygu fe wnaeth Mr Davies benderfynu siarad gan ei fod yn credu fod hwn yn "ymosodiad personol a bod rhaid ymateb".

Dywedodd Mr Davies fod yr hyn oedd yn cael ei honni yn anghywir ac yn gamarweiniol.

Roedd, meddai, yn ddyletswydd arno i amddiffyn y cyngor sir a'r gwaith oedd yn cael ei wneud.

"Mae nifer o faterion ac agweddau sydd yn y llythyr hwn sydd ddim yn ffeithiol gywir," meddai.

"Yn fy nhyb i, fel arfer mae'r cwrteisi yn cael ei dalu i unrhyw unigolyn neu arweinydd cyngor i ymateb cyn bod mater yn mynd yn gyhoeddus.

"Mae hyn yn ffordd ddigon resymol i lywodraethu unrhyw wlad yndyw e?

"Ond mae hyn bellach yn awgrymu i mi fod hwn yn mynd y tu hwnt i ddiogelwch plant, yn mynd yn fater o wleidyddiaeth."

Ychwanegodd y byddai'n ymateb yn llawn i'r llythyr maes o law.

Pan gyhoeddwyd yr adroddiadau fe ddywedodd Mr Andrews fod gan y cyngor sir ddau fis i lunio cynllun gweithredu.

Dywedodd y cyngor ar y pryd eu bod eisoes wedi dechrau'r broses o wella gwasanaethau.



HEFYD
'Angen gweithredu ar frys'
13 Awst 11 |  Newyddion
Cyngor yn addo gwelliannau
12 Awst 11 |  Newyddion
'Methu amddiffyn plant yn iawn'
11 Awst 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific