British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 24 Awst 2011, 17:07 GMT 18:07 UK
Addysg: Penodi dau gomisiynydd

Dosbarth ysgol
Dywedodd Estyn fod safonau'n anfoddhaol

Mae dau gomisiynydd wedi eu penodi i fod yn gyfrifol am wasanaethau addysg Blaenau Gwent o Fis Medi.

Ym mis Gorffennaf cafodd mesurau arbennig eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn dilyn adroddiadau beirniadol am safonau addysg.

Bydd y comisiynwyr newydd yn goruchwylio tasglu newydd sydd eisoes wedi dechrau ei waith.

Y ddau gomisiynydd yw Bethan Guilfoyle, cyn brifathrawes ysgol gyfun Treorci ac Isobel Garner, cyn brif weithredwr Cyngor Wrecsam.

Yn ogystal, penodwyd dau gomisiynydd ymgynghorol, Nerys Evans cyn AC Plaid Cymru ac Alan Evans o Brifysgol Caerdydd.

Dywedodd y corff arolygu, Estyn, fod "diffyg rheolaeth systemig" yn Awdurdod Addysg Blaenau Gwent.

Mae'r cyngor wedi dweud eu bod nhw eisoes wedi cyflwyno gwelliannau.

Hwn yw'r cyngor cyntaf lle mae awdurdod addysg cyfan wedi ei feirniadu yn y modd hwn ers i Estyn gyflwyno trefn archwilio newydd y llynedd.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific