British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 24 Awst 2011, 09:29 GMT 10:29 UK
Stephen Jones ddim yn ystyried ymddeol

Stephen Jones
Dywed y maswr nad oes ganddo fwriad ymddeol o rygbi rhyngwaldol

Does gan Stephen Jones ddim bwriad i ymddeol o rygbi rhyngwladol.

Dyna ddywedodd y maswr 33 oed cyn cychwyn i Seland Newydd ar gyfer pencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd.

Mae chwaraewr y Scarlets sydd eisoes wedi ennill 100 o gapiau dros ei wlad yn cystadlu am y crys rhif 10 gyda James Hook a Rhys Priestland.

Ond dywedodd nad yw rhoi'r gorau i chwarae dros Gymru wedi croesi ei feddwl.

"Fyddai ddim yn gwneud penderfyniad o gwbl. Fe fyddai'n dal i chware cyhyd a dwi'n hapus."

Enillodd Jones, a fydd yn 34 oed ym mis Rhagfyr, ei gap cyntaf yn erbyn De Affrica yn 1998 pan gollodd Gymru o 96-13.

De Affrica fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd ar fedi 11 yn Wellington.

Mae Jones wedi sgorio 899 pwynt dros Gymru ac wedi ymddangos mewn chwe phrawf i'r Llewod.

"Os ydw i'n mwynhau - ac ar hyn o bryd dwi'n mwynhau rygbi yn well nag erioed - dyna sy'n bwysig i mi.

"Tra byddai'n mwynhau fe fyddaf yn dal i chwarae."



HEFYD
100fed cap i Stephen Jones
04 Meh 11 |  Newyddion
Enwi Warburton yn gapten
22 Awst 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific