British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 24 Awst 2011, 08:57 GMT 09:57 UK
WRVS: Gwrthdystiad aelodau yn Ysbyty Gwynedd

Protest
Roedd y brotest yn erbyn penderfyniad i beidio defnyddio cyflenwr lleol

Mae o leia 20 o wirfoddolwyr sy'n darparu lluniaeth mewn ysbyty wedi protestio yn erbyn penderfyniad i beidio â defnyddio cyflenwr lleol.

Fe ddechreuodd y brotest am 1pm ddydd Mercher yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Dywedodd elusen y WRVS yr wythnos diwethaf na fyddai cwmni Menai Deli ym Mhorthaethwy yn cyflenwi Ysbyty Gwynedd o hyn ymlaen.

Mae'r elusen, sydd wedi arwyddo cytundeb drwy'r DU gyda chwmni Ginsters o Gernyw, wedi dweud bod hyn yn "angenrheidiol er mwyn cynnal gwaith da a gwasanaeth" yr elusen.

Roedd Menai Deli yn darparu brechdanau i'r WRVS yn Ysbyty Gwynedd am 20 mlynedd.

Chwe swydd

Dywedodd y cwmni y byddai rhaid i chwe swydd ddiflannu oherwydd eu bod wedi colli eu "cwsmer mwya".

Mae'r elusen wedi dweud y bydd Ginsters yn agor "swyddfa farchnata fach" yng ngogledd Cymru ac yn cyflogi pobl leol.

Eisoes mae Elfed Roberts, cyn-gadeirydd yr ymddiriedolaeth iechyd, wedi ysgrifennu at y Comisiwn Elusennol yn cwyno am y penderfyniad.

Mae cwmnïau eraill yn ardal Ysbyty Gwynedd hefyd yn pryderu y gallen nhw golli eu cytundeb hefyd.



HEFYD
WRVS: Llythyr at y Comisiwn Elusennau
22 Awst 11 |  Newyddion
WRVS a'r ffrae am frechdanau
16 Awst 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific