British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 24 Awst 2011, 07:45 GMT 08:45 UK
Elw cyn treth o £160.6 m i Admiral

Mae cwmni yswiriant Admiral, sydd a'i bencadlys yng Nghymru, wedi cyhoeddi iddyn nhw wneud elw cyn treth o £160.6 miliwn yn hanner cynta'r flwyddyn.

Mae hyn yn gynnydd o 27% o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Caiff dros 3,000 o bobl eu cyflogi gan y cwmni yn ne Cymru.

Dywed y cwmni bod y cynnydd o ganlyniad i fwy o yswiriant ceir a premiymau uwch.

Mae'r cwmni hefyd yn berchen ar Confused.com; Elephant.co.uk a Diamond.

Yn hanner cyntaf 2011 roedd gan Admiral 3.15 miliwn o gwsmeriaid o'i gymharu â 2.37 miliwn yn yr un cyfnod y llynedd.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific