British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 23 Awst 2011, 17:44 GMT 18:44 UK
Cyfeirio achos saethu at gorff cwynion

Siop Gwallt Carol Ann
Fe ddigwyddodd y saethu yn siop gwallt Carol Ann brynhawn Gwener

Mae achos dyn a saethodd ei wraig a dwy fenyw arall mewn siop trin gwallt yng Nghasnewydd cyn cael ei ganfod yn farw yn ddiweddarach wedi ei gyfeirio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.

Mae Heddlu Gwent wedi cyfeirio'r achos i'r Comisiwn wedi i gorff Darren Williams cael ei ganfod yng nghoedwig Brynglas, ger Casnewydd ddydd Gwener.

Bydd y Comisiwn yn archwilio beth ddigwyddodd cyn i Mr Williams farw.

Bydd y Comisiwn yn penderfynu os byddan nhw'n cynnal ymchwiliad ehangach ymhen 24 awr.

Cafodd cyn-bartner Mr Williams, 45 oed, ei saethau yn ei phen-glin.

Mae Rachel Williams, 37 oed, yn cael trinieth am ei hanafiadau yn Ysbyty Treforys, Abertawe.

Roedd hi'n gweithio yn siop trin gwallt Carol Ann's ar Ffordd Malpas yng Nghasnewydd.

Gynnau

Cafodd dwy fenyw oedd yn gwsmeriaid yn y siop, eu saethu yn y digwyddiad.

Taflodd un ohonyn nhw, menyw 92 oed , ei hun o flaen Mr Williams cyn iddo saethu at ei wraig.

Cafodd y ddwy fenyw eu rhyddhau o Ysbyty Brenhinol Gwent ar ôl derbyn triniaeth am eu hanafiadau.

Darren Williams
Cafodd Mr Williams ei wahardd rhag cadw gynnau

Roedd Mr Williams wedi dianc wedi'r digwyddiad gan adael y gwn yn y siop.

Credir i Mr Williams saethu ei hun gyda gwn arall.

Yn 2004 cafodd Mr Williams ei garcharu am bedwar mis gan Lys y Goron Caerdydd am droseddau yn ymwneud â chadw gynau yn anghyfreithlon.

Roedd ganddo droseddau blaenorol o gadw arfau neu fwledi anghyfreithlon a bod â gwn heb drwydded.

Ar y pryd dywedodd y tad i ddau o blant ei fod â diddordeb mewn gynnau ac nad oedd yna fwriad i'w defnyddio.



HEFYD
Arwres 92 oed yn camu i'r adwy
22 Awst 11 |  Newyddion
Saethu: Dyn wedi ei wahardd
21 Awst 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific