British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 28 Awst 2011, 12:10 GMT 13:10 UK
Nam ar olwg: Mudiad yn rhybuddio

Alison Archard
Alison Archard: Wedi cael llawdriniaeth

Mae adroddiad wedi rhybuddio y gallai miloedd yng Nghymru fod yn anymwybodol o'r ffaith fod nam ar eu golwg.

Yn ôl Cymdeithas Ryngwladol Glaucoma, mae dros 600,000 o bobl ym Mhrydain yn dioddef o'r clefyd.

Ond mae'r mudiad wedi honni nad yw hanner y rhain yn sylweddoli bod unrhyw beth yn bod.

Mae glaucoma yn lleihau'r golwg ymylol sy'n golygu bod gyrru'n beryglus ac yn anghyfreithiol.

Rhaid i unrhyw un â glaucoma yn y ddau lygad roi'r wybodaeth i'r Asiantaeth Drwyddedu yn Abertawe.

Ymgyrch

Pobl dros 40 oed yw'r rhai mwyaf tebygol o gael y clefyd ac mae'r mudiad wedi lansio ymgyrch i annog mwy o'r oedran i gael profion llygaid rheolaidd.

"Mae modd atal glaucoma, un o achosion dallineb," meddai prif weithredwr y mudiad, David Wright.

"Ond gall prawf llygaid syml a rheolaidd ddod o hyd i'r broblem ac o bosib achub eich golwg - a'ch trwydded gyrru."

Mae'r mudiad wedi argymell prawf bob dwy flynedd i'r rhai dros 40 oed.

Cyngor

Pan aeth Alison Archard o Gonwy â'i merch am brawf llygaid fe gafodd y fam, oedd yn 40 oed ar y pryd, gyngor i gael un ei hun.

"Yr ofn mwya wrth gael gwybod eich bod yn diodde o'r clefyd yw na fyddwch yn gallu gyrru ...," meddai Alison Archard sydd â thrwydded gyrru ar ôl colli ychydig o'i golwg mewn un llygad.

"Dwi'n defnyddio diferion yn fy llygaid ac wedi cael llawdriniaeth i leihau'r gwasgedd uchel ynddyn nhw ond mae maint y golwg dwi wedi colli yn eithaf bach."

Yn ôl y mudiad, profion llygaid yw'r ffordd orau o gael diagnosis gan fod y clefyd yn datblygu mor araf.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific