British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 23 Awst 2011, 10:36 GMT 11:36 UK
Rhybudd am droseddau casineb

Dau ddyn yn cofleidio
Mae pobl hoyw neu anabl yn aml yn diodde' oherwydd troseddau casineb

Mae rhybudd y gallai nifer achosion troseddau casineb godi i 9,000 yng Nghymru os bydd rhagor o achosion yn cael eu cofnodi.

Mae elusen Cymru Ddiogelach a heddluoedd y wlad wedi lansio ymgyrch yn annog pobl i roi gwybod i'r awdurdodau os ydyn nhw'n gwybod am achosion trais yn erbyn lleiafrifoedd.

Yn ôl yr ystadegau diweddara', roedd dros 1,900 o droseddau'n ymwneud â chasineb wedi'u cofnodi yng Nghymru yn ystod 2009.

Ond mae Cymru Ddiogelach yn dweud y gallai'r nifer fod llawer yn uwch.


Beth sydd yn bwysig yw gwneud yn siŵr bod pobl yn cofnodi'r achosion neu maen nhw'n aros yn gudd, yn anhysbys
Michelle

Dioddefwraig

Dywedodd Mark Williams, rheolwr prosiect y mudiad: "Beth rydyn ni'n ei ddweud mewn gwirionedd yw bod ymchwil yn dangos bod llai na chwarter troseddau casineb yn cael eu cofnodi.

"Felly os y'ch chi'n edrych ar y ffigurau yma mewn gwirionedd mae'n fwy fel 9,000 o achosion, mae'n siŵr os nad mwy.

"Mewn rhai meysydd fel anabledd, rhyw un o bob 10 achos sy'n cael ei adrodd i'r heddlu."

Posteri

Cafodd tua 52,000 o achosion eu cofnodi yn y DU yn ystod yr un cyfnod, rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2009.

TROSEDDAU CASINEB YNG NGHYMRU

DE CYMRU - 810 achos

GOGLEDD CYMRU - 399 achos

GWENT - 570 achos

DYFED POWYS - 122 achos

Bydd y posteri 'Cofnodwch Gasineb' yn cael eu harddangos mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, addoldai a meddygfeydd o ddydd Mawrth ymlaen.

Dywedodd Michelle o orllewin Cymru ei bod hi "wastad yn ymwybodol" fod pobl yn "edrych yn od" arni oherwydd ei bod wedi newid ei rhyw.

"Rwy'n credu ei bod yn amherthnasol os yw'r achos yn mynd i'r llys ai peidio," meddai wrth BBC Cymru.

"Beth sydd yn bwysig yw gwneud yn siŵr bod pobl yn cofnodi'r achosion neu maen nhw'n aros yn gudd, yn anhysbys."



HEFYD
Troseddau casineb wedi dyblu
17 Rhag 10 |  Newyddion
Homoffobia: Cymorth i ddioddefwyr
29 Ion 10 |  Newyddion
Pryder am droseddau casineb anabl
04 Ion 10 |  Newyddion
Troseddau casineb: Y darlun llawn?
06 Gorff 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific