British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 23 Awst 2011, 06:18 GMT 07:18 UK
Cost taclo tân teiars dros £1.5m

Lleoliad tân ffatri Teiart Mettoys, Abertawe
Bu'r tân ar y safle am 22 niwrnod cyn cael ei ddiffodd yn llwyr

Fe fydd y gost o daclo tân fu'n llosgi am dros dair wythnos mewn ffatri deiars yn Abertawe yn costio dros £1.5 miliwn.

Dywedodd Cyngor Sir Abertawe mai nhw fydd yn gorfod talu am y mwyafrif o'r gost ar ôl y digwyddiad yn ffatri Mettoys pan losgodd dros 5,000 tunnell o wastraff teiars.

Bu'n rhaid i'r ffatri yn ardal Fforestfach o'r ddinas gael ei dymchwel mwy neu lai fel bod swyddogion tân yn gallu tynnu'r gwastraff oddi yno a'i roi mewn tanciau dŵr mawr i sicrhau nad oedden nhw'n dal i losgi.

Mae Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dal i ymchwilio ar y cyd i achos y tân.

Cydweithio

Fe fydd cynghorwyr yn trafod cost y gwaith mewn cyfarfod cabinet ddydd Mawrth.

"Fe gychwynnodd y tân ar Fehefin 16 a dyma'r cynta' o'i fath yng Nghymru," meddai llefarydd ar ran y cyngor.

"Roedd angen i sawl corff gydweithio gyda'r gwasanaeth tân i daclo'r fflamau, y mwg a'r gweddillion.

"Er ei fod wedi digwydd ar dir preifat, roedd angen gwaith arbenigol a doedd gan y cyngor ddim dewis ond cyllido'r gwariant.

"Mae'r gost derfynol yn mynd i fod dros £1.5 miliwn.

"Er ein bod yn ceisio adfer arian gan y perchennog, fe fydd 'na gostau sylweddol i'r cyngor.

"Fe fydd cymorth ar gael gan Lywodraeth Cymru o dan gynllun cymorth ariannol brys."



HEFYD
Tân: Dymchwel ffatri
04 Gorff 11 |  Newyddion
Arestio dyn wedi tân teiars
26 Gorff 11 |  Newyddion
Tân teiars wedi ei ddiffodd
08 Gorff 11 |  Newyddion
Cost o drin fflamau yn filoedd
24 Meh 11 |  Newyddion
Tân Abertawe: Anhrefn ar y ffyrdd
16 Meh 11 |  Newyddion
Tân mewn hen ffatri
16 Meh 11 |  Newyddion
Mewn Llun: Tân Abertawe
17 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific