British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 23 Awst 2011, 06:31 GMT 07:31 UK
Tŷ Bedwellte yn ailagor ar l buddsoddiad o 5.9m

Adeilad ysblenydd ar l buddsoddiad

Ar ôl buddsoddiad gwerth £5.9 miliwn mae Tŷ Bedwellte yn Nhredegar yn ailagor yn swyddogol.

Bydd cyfle i ymwelwyr gael taith arbennig o'r adeilad hanesyddol ar ei newydd wedd a bydd plac yn cael ei ddadorchuddio yno ddydd Mawrth.

Cafodd y gwaith ar y tŷ a'r parc ei wneud mewn partneriaeth rhwng Cronfa Treftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru, Cyngor Blaenau Gwent, Cadw a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Mae'r adeilad cofrestredig Gradd II yn dyddio'n ôl i ddechrau'r 19eg Ganrif.

Bu'n gartref i feistri dur Tredegar, gyda'r tŷ presennol yn cael ei godi ar union safle'r hen dŷ.

Fe wnaeth Yr Arglwydd Tredegar gyflwyno'r tŷ i bobl y dref ac ers hynny bu'n bencadlys y cyngor lleol.

Gweithgareddau

Mae'r cyngor yn dal i gynnal eu cyfarfodydd yn y siambr lle mae sedd Aneurin Bevan, sedd benodol iddo wedi iddo ddod yn gynghorydd Llafur cyntaf Tredegar ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ymhlith y gwaith sydd wedi ei wneud ar y tŷ y mae toiledau newydd, mynedfa newydd i'r iard, adfer yr estyniad sy'n gartref i'r caffi, gwella cyfleusterau swyddfa i Gyngor Tref Tredegar, Gwasanaeth Cofrestru Blaenau Gwent ac ystafelloedd cyfarfod.

Mae modd cynnal priodasau yn Ystafell Y Glowyr ac mae'r stablau wedi eu haddasu er mwyn cynnal arddangosfeydd a lle ar gyfer gweithgareddau addysgol.

Mae 'na waith hefyd wedi cael ei wneud ar y gerddi a'r waliau.

Cafodd y cynlluniau uchelgeisiol gefnogaeth gan bobl Tredegar, Cyfeillion Tŷ Bedwellte a Chyngor Tref Tredegar.

"Mae'r tŷ yn edrych yn gwbl wych," meddai'r Cynghorydd Jason Owen, Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Blaenau Gwent sydd â chyfrifoldeb am Hamdden a Diwylliant.

"Dwi'n gwbl hyderus y bydd yn ganolfan dreftadaeth arbennig ac yn denu ymwelwyr yma i Dredegar.

"Fe fydd hefyd yn hwb i weithgareddau'r gymuned.

"Mae wir yn dangos bod modd gwireddu breuddwydion."



HEFYD
Datgelu cynllun twristiaeth 12m
24 Ion 08 |  Newyddion
120,000 i ddenu ymwelwyr
03 Ebr 06 |  Newyddion
Cynllun 45m i adfer camlas
09 Chwef 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific