British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 22 Awst 2011, 15:01 GMT 16:01 UK
Hela llwynogod: Galw am bleidlais

Dyn a cheffyl
Cafodd y gwaharddiad ar hela llwynogod ei gyflwyno yn 2004

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad wedi galw ar ei gyfoedion yn San Steffan i gynnal pleidlais i ddileu'r gwaharddiad ar hela llwynogod.

Dywedodd Andrew RT Davies ei fod yn disgwyl i Lywodraeth y DU barchu eu haddewid i gynnal pleidlais pan ffurfiwyd y glymblaid y llynedd.

Mae Aelodau Seneddol y Ceidwadwyr wedi'u rhannu ynglŷn â'r mater er iddo fod yn rhan o faniffesto'r blaid cyn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai 2010.

Dywed y RSPCA byddai diddymu'r gwaharddiad yn "gam yn ôl".

Rwy'n credu fod yna ddadl gref i ddiddymu'r gwaharddiad ac rwy'n cefnogi hyn
Glyn Davies, AS

Mae Mr Davies yn credu dylai ei blaid barchu eu haddewid i geisio diddymu Deddf Hela 2004.

"Rydw i o'r farn y dylai gwleidyddion gadw at eu haddewidion," meddai.

"Os ydi gwleidydd yn dweud rhywbeth ac yn ei roi ar bapur fe ddylen nhw weithredu ar hynny."

Pleidlais

Ychwanegodd Mr Davies, sy'n cynrychioli Canol De Cymru yn y Cynulliad, fod hela llwynogod yn darparu gwasanaeth gwerthfawr ar gyfer cefn gwlad Cymru gan gael gwared â sgerbydau ŵyn a lloi.

Honnodd Mr Davies y byddai busnesau yn y Gymru wledig yn dioddef pe na bai'r ddeddf yn cael ei diddymu.

Dywedodd y dylai Llywodraeth y DU gynnal pleidlais rydd ar y mater heb ddweud wrth eu haelodau seneddol sut i bleidleisio.

Dywedodd Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, Glyn Davies, y dylai'r Llywodraeth "gadw at eu haddewidion pa bryd bynnag yr oedd hynny'n bosib".

Ychwanegodd ei fod yn credu y dylid diddymu'r ddeddf ond yr oedd yn cydymdeimlo â'r naill ddadl a'r llall.

"Rwy'n credu fod yna ddadl gref i ddiddymu'r gwaharddiad ac rwy'n cefnogi hyn.

"Ond mae yna ddadl i beidio diddymu'r ddeddf oherwydd pe bai hyn yn digwydd byddai ymgyrchwyr yn dechrau protestio gan achosi'r mater i fod yn bwnc llosg unwaith eto."

Dywedodd yr RSPCA y byddai diddymu'r gwaharddiad yn "gam yn ôl i gymdeithas waraidd".

Dywedodd John Rolls, cyfarwyddwr polisi'r RSPCA: "Dydyn ni ddim wedi newid ein neges erioed, sef bod hela yn greulon."

Cafodd y gwaharddiad ar hela llwynogod ei gyflwyno yn 2004.



HEFYD
Senedd yn gwahardd hela
15 Medi 04 |  Newyddion
Miloedd o blaid hela
15 Medi 04 |  Newyddion
Hela: 'Traddodiad yn para'
18 Chwef 06 |  Newyddion
Heddlu'n beirniadu protest hela
26 Tach 04 |  Newyddion
Tymor hela: Anghytuno'n parhau
03 Tach 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific