British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 22 Awst 2011, 12:49 GMT 13:49 UK
WRVS: Llythyr at y Comisiwn Elusennau

Brechdan (cyffredinol)
Mae WRVS wedi penderfynu cael eu brechdanau gan gwmni Ginsters o Gernyw

Mae llythyr wedi cael ei anfon at y Comisiwn Elusennau wedi i fusnes brechdanau, sy'n cyflenwi siop a chaffi mewn ysbyty lleol, golli'r cytundeb i gwmni mawr.

Er i wirfoddolwyr gydag WRVS yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, brotestio'n chwyrn, mae'r mudiad wedi dweud eu bod yn cadw at eu penderfyniad i gael eu brechdanau gan gwmni Ginsters o Gernyw, yn hytrach na gan Menai Deli, Porthaethwy.

Mae'r cwmni o Ynys Môn - sydd wedi darparu cynnyrch ar gyfer siop elusennol WRVS yn Ysbyty Gwynedd ers 20 mlynedd - wedi rhybuddio y bydd chwech o swyddi'n gorfod mynd yn sgil colli'r cytundeb.

Nawr mae Elfed Roberts - oed yn gyn gadeirydd yr ymddiriedolaeth oedd yn arfer â gofalu am yr ysbyty ac yn gyn Brif Gwnstabl Cynorthwyol gyda Heddlu'r Gogledd - wedi anfon llythyr cwyn at y Comisiwn Elusennol.

'Tanseilio ffydd y cyhoedd'

Mae'n dweud bod nifer o faterion wedi eu crybwyll mewn cyfarfod agored yn yr ysbyty ddydd Gwener a oedd yn "codi pryderon ynglŷn ag elfennau ariannol a llywodraethol yn ymwneud ag arferion WRVS".

Dywedodd y gallai hyn danseilio ffydd y cyhoedd yn yr elusen a'i fod yn fater y gallai'r Comisiwn fod â phryderon yn ei gylch am fod WRVS, yn ôl Mr Roberts, "wedi methu â dilyn proses dendro deg".

Mae'n credu fod hygrededd WRVS yng ngogledd Cymru wedi cael ei "niweidio'n ddifrifol".

Yn ôl WRVS, bydd newid cyflenwyr yn "sicrhau ansawdd eu brechdanau ar hyd y wlad".

Dywedodd Sally Rivers, pennaeth gwasanaethau WRVS yng Nghymru, eu bod wedi newid cyflenwr "er mwyn sicrhau bod gennym neges gyson, gyda'r un cyflenwr brechdanau ar gyfer ein holl wasanaethau'n genedlaethol."

Ychwanegodd mai Ysbyty Gwynedd oedd y gwasanaeth ola' yn y DU i newid cyflenwr.



HEFYD
WRVS a'r ffrae am frechdanau
16 Awst 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific