British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 22 Awst 2011, 11:43 GMT 12:43 UK
Enwi Warburton yn gapten ar gyfer Cwpan y Byd

Sam Warburton
Sam Warburton fydd capten ieuengaf Cymru yng Nghwpan y Byd

Sam Warburton o'r Gleision sydd wedi cael ei enwi fel capten Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2011.

Dyw Martin Williams ddim wedi cael ei gynnwys yn y garfan ar ôl ennill ei 99fed cap i Gymru yn y fuddugoliaeth dros Ariannin ddydd Sadwrn.

Bydd y prop Gethin Jenkins yn teithio i Seland Newydd er nad yw wedi chwarae ers mis Ionawr oherwydd anafiadau i'w droed a'i goes.

Felly hefyd Stephen Jones, er na chwaraeodd yng ngemau paratoadol Cymru fis yma.

Warburton, 22 oed, yw'r capten ieuengaf i arwain Cymru mewn cystadleuaeth.

Methodd maswr y Scarlets, Jones, a chwarae yn y gêm yn erbyn Lloegr yn Twickenham ar Awst 6 oherwydd anaf i'w goes.

Roedd hefyd wedi gorfod tynnu'n ôl o'r fainc cyn buddugoliaeth Cymru dros Ariannin.

Cafodd prop pen rhydd y Gleision, Jenkins, lawdriniaeth ar fys ei droed ym mis Ionawr a chollodd pob un o gemau mis Awst Cymru oherwydd anaf i'w goes.

CARFAN CYMRU AR GYFER CWPAN RYGBI'R BYD 2011

BLAENWYR: Gethin Jenkins (Gleision), Lloyd Burns (Dreigiau), Huw Bennett, Ryan Bevington, Adam Jones, Paul James (Gweilch), Ken Owens (Scarlets), Craig Mitchell (Caerwysg), Bradley Davies, Sam Warburton (Gleision, capten), Luke Charteris, Danny Lydiate, Toby Faletau (Dreigiau), Ryan Jones, Alun Wyn Jones (Gweilch), Andy Powell (Siarcod Sale).

OLWYR: Michael Phillips (Bayonne), Lloyd Williams (Gleision), Tavis Knoyle (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), James Hook (Perpignan), Jonathan Davies, Stephen Jones, Rhys Priestland, Scott Williams (Scarlets), Leigh Halfpenny (Gleision), Lee Byrne (Clermont Auvergne), Aled Brew (Dreigiau), Shane Williams (Gweilch), George North (Scarlets).



HEFYD
Pryderon am y bachwr Hibbard
22 Awst 11 |  Newyddion
Ryan Jones allan o dm Cymru
18 Awst 11 |  Newyddion
Gatland yn obeithiol am Jenkins
16 Awst 11 |  Newyddion
Henson wedi cael llawdriniaeth
14 Awst 11 |  Newyddion
Cymru 19-9 Lloegr
13 Awst 11 |  Newyddion
Amheuaeth am gapten Cymru
12 Awst 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific