British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 22 Awst 2011, 08:46 GMT 09:46 UK
Pryderon am y bachwr Hibbard

Richard Hibbard
Bu'n rhaid i Richard Hibbard adael y cae yn ystod yr ail hanner ddydd Sadwrn

Richard Hibbard yw'r diweddara' o chwaraewyr Cymru i gael eu hanafu cyn i Gwpan y Byd ddechrau yn Seland Newydd fis nesa'.

Roedd bachwr y Gweilch wedi dechrau gêm baratoadol Cymru yn erbyn Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn ond bu'n rhaid iddo adael y cae ar ôl anafu ei bigwrn.

Cymru enillodd y gêm o 28-13.

Fydd y capten Matthew Rees yn bendant ddim ar gael i chwarae yng Nghwpan y Byd oherwydd anaf i'w wddf.

Gallai hynny olygu mai dim ond tri o fachwyr fyddai ar gael - Huw Bennett, Ken Owens a Lloyd Burns - pan fydd Warren Gatland yn enwi ei garfan o 30 dyn ddydd Llun.

Mae 'na hefyd bryderon ynglŷn â'r prop Gethin Jenkins a'r maswr Stephen Jones.

Bydd yr hyfforddwr yn datgelu'r garfan yn ystod cynhadledd i'r wasg yn Stadiwm y Mileniwm amser cinio ddydd Llun.

Cap cyntaf

Mae mewnwr Gleision Caerdydd, Lloyd Williams, yn gobeithio ei fod wedi gwneud digon i sicrhau ei le ymhlith y 30 o chwaraewyr.

Fe enillodd Williams ei gap cynta' ar ôl dod ymlaen yn ail hanner y gêm yn erbyn yr Ariannin, i gymryd lle Tavis Knoyle.

"Da ni gyd yn cadw'n bysedd wedi'u croesi," meddai Williams wrth Chwaraeon BBC Cymru.

Dechreuodd Mike Phillips, sydd ar ei ffordd i Bayonne, y ddwy gêm yn erbyn Lloegr, gyda Knoyle o'r Scarlets yn gwisgo'r crys rhif naw yn erbyn y Pumas.

A hithau'n ymddangos nad yw chwaraewr Sale, Dwayne Peel, yn cael ei ystyried, bydd yn rhaid i Williams aros i weld faint o fewnwyr arbenigol y mae Gatland yn ei ddewis ar gyfer Seland Newydd.

Yn y rheng ôl mae'r penderfyniadau mwya' yn wynebu Gatland, a'i raniad terfynol o flaenwyr ac olwyr, prun ai ydy o'n dewis cyfuniad 17-13 neu 16-14.

"Rwyf wir yn gobeithio'u bod yn mynd i fynd â thri a gobeithio mod i wedi gwneud digon i'w hargyhoeddi nhw," meddai Williams wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn yr Ariannin.

"Fe chwaraeodd Tavis [Knoyle] yn dda iawn ac roedd Mike [Phillips] wedi gwneud yr wythnosau blaenorol."

Byddai sicrhau lle ar yr awyren i Seland Newydd yn gorffen ychydig o fisoedd cofiadwy i'r chwaraewr 21 oed, a ddechreuodd chwe gêm i'r Gleision y tymor diwetha'.

'Profiad afreal'

Ym mis Mehefin, fe chwaraeodd Williams i'r Barbariaid cyn iddo gael ei ychwanegu at y rhestr posib ar gyfer Cwpan y Byd, ar ôl i Phillips gael ei atal dros dro oherwydd digwyddiad honedig yng nghanol Caerdydd.

Wedi iddo fanteisio'n llwyr ar ei gyfleoedd, mae Williams wedi mwynhau ei brofiad cynta' gyda'r garfan genedlaethol.

"Rwyf wrth fy modd i fod yn rhan o bopeth nawr ac rwy'n ceisio byw'r profiad a gwneud y gorau ohono," meddai mab y chwaraewr rygbi Brynmor Williams.

"Fydden i ddim wedi disgwyl hyn 'chydig fisoedd yn ôl, mae hynny'n siŵr.

"Roedd yn brofiad afreal dod i'r stadiwm ar ôl cael fy nghyhoeddi yn y garfan am y tro cynta'.

"Roeddwn i'n edrych 'mlaen ar ddechrau'r diwrnod a'n ceisio mwynhau'r diwrnod cyfan. Roedd yn fraint anhygoel cael dod ymlaen ar gyfer yr 20 munud ola'."



HEFYD
Ryan Jones allan o dm Cymru
18 Awst 11 |  Newyddion
Gatland yn obeithiol am Jenkins
16 Awst 11 |  Newyddion
Henson wedi cael llawdriniaeth
14 Awst 11 |  Newyddion
Cymru 19-9 Lloegr
13 Awst 11 |  Newyddion
Amheuaeth am gapten Cymru
12 Awst 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific