British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 21 Awst 2011, 14:16 GMT 15:16 UK
Gwylwyr y Glannau: Ymgyrch

Protest i achub Gwylwyr y Glannau, Abertawe
Daeth tua 200 i gefnogi'r brotest

Mae protestwyr yn Abertawe wedi bod yn cynnal gweithgareddau ar y dŵr fel rhan o'u hymgyrch i achub gorsaf gwylwyr y glannau.

Bwriad Llywodraeth San Steffan yw cau'r orsaf erbyn 2015 fel rhan o gynllun ad-drefnu.

Bu tua 200 o bysgotwyr, sglefrwyr, morwyr a phobl leol yn rhan o'r brotest yn y Mwmblws ddydd Sul.

Mis nesa mae disgwyl i ddeiseb ac arni 50,000 o enwau gael ei chyflwyno i Downing Streeet.

Dywed ymgyrchwyr y byddai cau'r orsaf yn peryglu bywydau.

Mae Abertawe, sy'n cyflogi 28 o bobl, yn un o wyth o orsafoedd gwylwyr y glannau fydd yn cau rhwng 2012 a 2015.

Dywedodd Mike Dubens un o drefnwyr y brotest: "Pe bai gorsaf Abertawe yn cau, yna byddai'r goblygiadau yn ddifrifol," meddai.

"Yn 2010 fe wnaeth Gwylwyr y Glannau Abertawe ymateb i dros 2,000 o alwadau - hon yw'r ail orsaf brysuraf ym Mhrydain.

"Yn Aberdaugleddau, gorsaf sydd i barhau ar agor, roedd nifer y digwyddiadau yn llai na hanner hynny."

Yn wreiddiol awgrym y llywodraeth oedd cau gorsafoedd Aberdaugleddau a Chaergybi ac israddio Abertawe.

Ond penderfynodd y llywodraeth ailfeddwl.

Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth Philip Hammond mai un o'r rhesymau am gau Abertawe oedd bod gan y ddinas ganran uchel o bobl yn gweithio yn y sector cyhoeddus.

Bydd y broses ymgynghori yn para tan Hydref 6.



HEFYD
Gwylwyr y Glannau: Cyhoeddiad
14 Gorff 11 |  Newyddion
Gwylwyr y Glannau: Ailfeddwl?
23 Meh 11 |  Newyddion
Ail-ystyried cau gorsafoedd
19 Mai 11 |  Newyddion
Gwylwyr y Glannau: Rali arall
19 Maw 11 |  Newyddion
Trafod Gwylwyr y Glannau
04 Maw 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific