British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 20 Awst 2011, 16:16 GMT 17:16 UK
Buddugoliaeth i Gymru

Tavis Knoyle ac Andy Powell yn dathlu
Tavis Knoyle ac Andy Powell yn dathlu ar l cais cyntaf Cymru

Sgoriodd Cymru dau gais mewn dwy funud wrth i'r tim sichrau buddugoliaeth o 28-13 yn erbyn Ariannin yng Nghaerdydd.

Hon oedd gêm olaf Cymru cyn teithio i Seland Newydd ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd.

Daeth y fuddugoliaeth er gwaethaf hanner awr cyntaf siomedig i'r tîm cartref.

Yn ystod y cyfnod hwnnw blaenwyr Ariannin fu'n rheoli'r chwarae.

Ond bydd perfformiad Adam Jones yn y rheng flaen yn gysur i Gymru.

Roedd o'n dychwelyd i'r tîm ar ôl anaf, ac roedd sgarmes Cymru yn edrych yn fwy cadarn.

Er i'r ymwelwyr reoli'r gêm ar y dechrau bu'n rhaid aros tan y 29 mund i gic cosb Contemponi eu rhoi ar y blaen.

Ond yna mewn cyfnod o ddwy funud fe lwyddodd Cymru i weddnewid y sgor a'r gêm.

Daeth y cais cyntaf yn dilyn sgarmes.

Fe godwyd y bêl o gefn y sgarmes gan Andy Powell, ac roedd yr wythwr wrth law i orffen y symudiad gan dderbyn pas gan Alun Wyn Jones.

Yna o fewn eiliadau i ailddechrau fe wnaeth yr asgellwr George North waith ardderchog wrth guro dau ddyn cyn pasio i Alun Wyn Jones ar gyfer yr ail gais.

Roedd Cymru ar y blaen 14-3 ar yr egwyl ac estynnwyd y fantais i 20-3 ar ôl dwy gic cosb gan Hook.

Yna yn dilyn symudiad crefftus gan olwyr Cymru daeth y bel i ddwylo George North.

Doedd dim modd i'r amddiffyn ei rwystro rhag croesi o ddeg llath.

Tua diwedd y gêm croesodd blaenwyr yr Ariannin am gais cysur.

Cymru 28-13 Ariannin



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific