British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 22 Awst 2011, 17:23 GMT 18:23 UK
Angladd yr actor Huw Ceredig


Angladd Huw Ceredig ym Mhen-y-Bont

Cafodd angladd yr actor Huw Ceredig ei gynnal ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun.

Bu farw yn 69 oed wedi salwch hir.

Roedd yr angladd yng Nghapel Tabernacl am 1pm, gyda gwasanaeth preifat i ddilyn i'r teulu.

Mae'n gadael gwraig, Margaret, dwy ferch ac wyrion.

Roedd nifer o'i gyd-actorion a gwleidyddion ymlith y rhai ddaeth i roi'r deyrnged ola iddo ynghyd â thrigolion Pen-y-Bont ar Ogwr.

Roedd rhaid i nifer sefyll y tu allan i'r capel yn gwrando ar y gwasanaeth.

Daeth y gwasanaeth cyhoeddus i ben gyda chân Esgair Llyn, cân adnabyddus Dafydd Iwan, am leoliad sy'n agos iawn iddyn nhw fel teulu.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am actio'r cymeriad Reg Harries yn y gyfres Pobol Y Cwm am 29 mlynedd.

Ond bu hefyd yn actio mewn dramâu llwyfan ac mewn ffilmiau yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Cafodd ei eni ym Mrynaman ym 1942.

Roedd yn un o bedwar o feibion y Mans, yn frawd mawr i'r gwleidydd a'r canwr, Dafydd Iwan, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon, Alun Ffred Jones, ac Arthur Morris.



HEFYD
Huw Ceredig wedi marw
16 Awst 11 |  Newyddion
Teyrngedau i'r actor Huw Ceredig
17 Awst 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific