Mae'r siop wedi cau wrth i ymchwiliad gael ei gynnal
|
Mae swyddogion iechyd wedi cadarnhau bod 'na achos arall o E. coli wedi ei gadarnhau yn ne Cymru. Mae nifer yr achosion erbyn hyn yn wyth. Cafodd siop bwyd cyflym Adonis Kebab House ar Heol y Ddinas yn Y Rhath, Caerdydd, ei gau dros dro rhag ofn i'r haint ledu. Penderfynodd Cyngor Caerdydd osod mwy o amodau ar y bwyty wrth i'r ymchwiliad barhau. Mae'r awdurdodau yn ymchwilio i bedwar achos arall. Mae un person yn ddifrifol wael yn yr ysbyty o ganlyniad i'r haint.
 |
Mae 47 o bobl wedi cysylltu â ni gan gynnig eu manylion i ni ac fe fyddan ni'n cysylltu â nhw'n fuan
|
Dydd Iau gofynnodd swyddogion o Adran Iechyd yr Amgylchedd y cyngor am orchymyn brys yn Llys yr Ynadon Caerdydd i atal y siop fwyd rhag masnachu. Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Roedd y llys yn fodlon fod yr adeilad yn peri pryder iechyd ac fe wnaethon nhw ganiatáu'r gorchymyn fydd yn cael ei osod ar y bwyty kebab." Hylendid Bwyd Cafodd y bwyty ei arolygu ar Orffennaf 22 gan gyflawni Sgôr Hylendid Bwyd o un allan o bump. Dywedodd llefarydd y cyngor fod rhaid aros am gyfnod cyn cyhoeddi'r sgôr am fod rhaid iddyn nhw roi cyfle i bobl apelio yn erbyn y dyfarniad. "Rydyn ni'n bwriadu gosod y Sgôr Hylendid Bwyd ar wefan Yr Asiantaeth Safonau Bwyd erbyn Awst 28," meddai.
Gall unigolion gael E.coli O157 ar ôl bwyta bwyd neu ddŵr wedi ei heintio
|
Mae tîm o arbenigwyr o sawl asiantaeth yn cyd-weithio, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Caerdydd, Cyngor Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bro Morgannwg, i achosion o E. coli. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gofyn i unrhyw un sydd wedi bod mewn cysylltiad ag Adonis Kebab House ers dydd Llun Gorffennaf 18 i helpu'r ymchwiliad drwy lenwi ffurflen ar eu
gwefan
a'i hanfon atyn nhw. Dywedodd Dr Gwen Lowe, ymgynghorydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, bod ymholiadau yn parhau. "Mae 47 o bobl wedi cysylltu â ni gan gynnig eu manylion inni ac fe fyddan ni'n cysylltu â nhw'n fuan. "Mae'r ymchwiliad yn parhau ac rydyn ni'n cadw llygad craff ar y sefyllfa." Angheuol Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, gall y salwch amrywio o ddolur rhydd ysgafn i ddolur rhydd gwaedlyd a gall crampiau difrifol yn y stumog gyd-fynd â hyn. Cymhlethdod difrifol o haint E. coli O157 yw syndrom wremig hemolytig (HUS) sy'n digwydd ymysg hyd at 10% o gleifion sydd wedi cael eu heintio â VTEC O157. Mae'n effeithio'n benodol ar blant ifanc ac ar bobl oedrannus ac, mewn nifer fach o achosion, gall fod yn angheuol. Mae mesurau rheoli digonol ac arferion hylendid da yn bwysig i atal heintiau gan E. coli O157, ac mae'r rhain yn cynnwys: Golchi dwylo'n drylwyr cyn bwyta neu baratoi bwyd, ar ôl defnyddio'r toiled, ar ôl newid cewynnau neu lanhau ar ôl pobl eraill sy'n dioddef dolur rhydd. Sicrhau bod cig, yn enwedig briwgig cig eidion, yn cael ei goginio'n drylwyr (gall cig gael ei halogi yn ystod y lladd, a gall organebau gael eu cymysgu i'r cig yn anfwriadol wrth wneud y briwgig). Trafod, paratoi a storio cig amrwd a chynhyrchion eraill anifeiliaid mewn modd hylan a sicrhau nad yw cigoedd amrwd a'r offer a ddefnyddir i'w trafod yn dod i gysylltiad â chig wedi'i goginio na bwyd parod. Dylai unrhyw un sydd â symptomau gysylltu â meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647.
|