British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 20 Awst 2011, 09:53 GMT 10:53 UK
'Gemau Olympaidd' yn Nhreffynnon

Treffynnon
Mae trefnwyr y gemau'n gobeithio hybu diddordeb mewn chwaraeon

Mae'r Gemau Olympaidd yn cyrraedd Treffynnon blwyddyn yn gynnar dros y penwythnos.

Mae Clwb Rotari Y Fflint a Threffynnon ynghyd â chyngor y dref, yn cynnal diwrnod o gystadlaethau Olympaidd yng nghanol Treffynnon.

Bydd y diwrnod yn dechrau am 10am gyda seremoni agoriadaol ac yn gorffen am 4pm gyda seremoni gloi.

"Mae fel Gemau Olympaidd bach mewn un diwrnod," meddai Graham Ross o Glwb y Rotari.

Syniad Clwb y Rotari oedd cynnal y gemau gyda'r nod, nid yn unig o hybu chwaraeon ymysg pobl ifanc, ond hefyd i geisio denu mwy o bobl i ganol y dref.

Bydd y cystadlaethau yn cael eu rhannu i bedwar grŵp oedran a'r tri gorau ym mhob cystadleuaeth yn ennill medal.

Mwynhau

Gellir cymryd rhan yng nghystadlaethau gwaywffon, naid hir a thaflu maen ymysg sawl un arall.

Bydd yr athletwraig baralympaidd Beverley Jones, sy'n byw yn Shotton yn mynychu'r digwyddiad.

Bydd nifer o glybiau chwaraeon lleol, gan gynnwys Clwb Athletau Amatur Glannau Dyfrdwy, yno hefyd.

Dywedodd Mr Ross ei bod yn gobeithio yn fwy na dim y byddai pobl ifanc yn mwynhau'r digwyddiad ac eisiau dysgu mwy.

"Rydyn ni'n meddwl ei bod hi'n bwysig cael diddordeb mewn chwaraeon, nid yn unig o ran iechyd ond hefyd disgyblaeth," dywedodd.

"Bydd y diwrnod yma'n rhoi cyfle hawdd i bobl roi cynnig ar nifer o wahanol chwaraeon."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific