British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 26 Awst 2011, 10:10 GMT 11:10 UK
Cyhoeddi llyfr i ddysgwyr Cymraeg yn Japan

Llyfr i helpu pobl o Japan ddysgu Cymraeg
Mae 30,000 copi o'r llyfr wedi eu cyhoeddi

Mae dau o Japan wedi cyhoeddi llyfr ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn eu gwlad eu hunain.

Y ddau yw Yoshifumi Nagata, sydd newydd fod i'r Eisteddfod yn Wrecsam, a'i ffrind, Takeshi Koike.

Dechreuodd diddordeb Yoshifumi yn y Gymraeg pan astudiodd farddoniaeth R S Thomas ym Mhrifysgol Mesei yn Tokyo.

"Roeddwn am ddysgu ychydig o Gymraeg," meddai. "Ond dim ond llyfrau drwy gyfrwng y Saesneg y gallwn i ddod o hyd iddyn nhw.

"Roedd hyn yn rhwystr."

Profiadau

Felly penderfynodd y ddau ysgrifennu llyfr yn Japanaeg fyddai'n helpu dysgwyr gynnal sgwrs seml yn y Gymraeg.

Esboniodd Takeshi fod pob pennod o'r llyfr yn cynnwys deialog rhwng myfyrwraig o'r enw Yoshimi, sydd yn astudio'r Gymraeg yn Llanbedr Pont Steffan, a'i ffrindiau Dafydd a Rhian.

Seiliodd Takeshi y sgyrsiau ar ei brofiadau ei hun pan oedd yn fyfyriwr cyfnewid ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan ym 1992.

"Mae profiadau Yoshimi wedi eu seilio ar fy mhrofiadau i ond wnes i ddim yfed cymaint ag y mae Yoshimi'n yfed ym mhennod 14."

Dywedodd Yoshifumi fod pobl ifanc Japan yn ymddiddori mewn diwylliant Cymreig, yn enwedig bandiau fel y Manic Street Preachers.

Takeshi Koike
Mae profiadau'r cymeriad yn y llyfr wedi eu seilio ar brofiadau Takeshi yng Nghymru

Mae wedi ysgrifennu nifer o erthyglau am ddiwylliant Cymru ac yn darlithio mewn nifer o brifysgolion yn Japan.

"Fe wnes i fwynhau'r ymweliad i'r Eisteddfod yn Wrecsam ar ôl bod i'r un yn Sir y Fflint yn 2007.

Ers 2000, meddai, roedd wedi bod i Gymru wyth o weithiau.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific