British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Awst 2011, 10:15 GMT 11:15 UK
Terfyg Tredegar: Achos Gwrth-Semitig?

Tredegar
Ymosododd tua 250 o bobl ar fusnesau oedd yn berchen i Iddewon ar Awst 19 1911

Mae Terfysg Tredegar yn 1911 yn dal i fod yn bwnc llosg ymysg haneswyr a hynny ganrif union ers i 250 o bobl ymosod ar siopau Iddewon yn y dre.

Roedd y terfysg ymhlith nifer o streiciau ac anufudd-dod sifil a ledodd ar draws de Cymru yn ystod yr haf y flwyddyn honno.

Ond ar nos Sadwrn Awst 19 ymosododd tua 250 o bobl ar fusnesau oedd yn berchen i Iddewon am fod y fintai yn credu bod prisiau'r siopau yn rhy uchel.

Er i neb gael eu hanafu na'u lladd penderfynodd yr Ysgrifennydd Cartref Winston Churchill anfon y fyddin i dawelu'r sefyllfa ar ôl i fusnesau a chartrefi Iddewon gael eu llosgi ac ysbeilio am wythnos.

Churchill

Ond oedd y terfysg yn weithred Wrth-Semitig?

Dywedodd yr hanesydd, Yr Athro Geoffrey Alderman fod arweinyddion y gymuned Iddewig yn Nhredegar wedi gwneud yn fach o'r terfysg am eu bod nhw am warchod y ddelwedd fod Iddewon wedi dod yn rhan o gymdeithas ym Mhrydain heb lawer o drafferth.

"Ond disgrifiodd Winston Churchill y terfysg fel 'pogrom' a wnes i ganfod tystiolaeth fod gan rai o'r terfysgwyr teimladau Gwrth-Semitig," meddai.

"Siaradais â glöwr o'r enw Fred Hopkins oedd yn blentyn yn byw yn Nhredegar pan ddigwyddodd y terfysg ac roedd e'n cofio pobl yn gweiddi ar bobl i ymosod ar yr Iddewon.

"Roedd e hefyd yn cofio clywed emynau yn cael eu canu wrth i derfysgwyr ymosod ar y siopau, sy'n awgrymu bod yna elfennau crefyddol yn gysylltiedig â'r ymosodiadau."

'Llafurwyr estron'

Ond mae'r Athro William Rubenstein o Brifysgol Aberystwyth yn honni nad yw'r ddadl am weithredai Wrth-Semitig yn dal d?r.

"Nid oedd y terfysgwyr yn or-hoff o fusnesau Iddewig ond nid yw hynny'n gyfystyr â bod yn Wrth-Semitig," meddai.

"Roedd y terfysgwyr wedi cyrraedd pen eu tennyn ar ôl bod ar streic am flwyddyn.

"Roedden nhw'n gynddeiriog ac yn fodlon ymosod ar unrhyw un yr oedden nhw'n meddwl yr oedd wedi gwneud cam â nhw."



HEFYD
Dysgu am fywyd Iddewig yng Nghymru
11 Awst 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific