British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Awst 2011, 05:41 GMT 06:41 UK
'Angen diogelu beicwyr'

Beiciwr
Owen: 'Angen amddiffyn beicwyr'

Mae yna alwad i'r awdurdodau wneud mwy i amddiffyn beicwyr yn dilyn damwain ffordd.

Dywed llywydd Beicwyr Cymru Bill Owen fod angen i feicwyr hefyd fod yn fwy awdurdodol ac i beidio â bod ofn teithio yng nghanol y ffordd.

Daw'r sylw ar ôl i Simon Richardson y beiciwr Paralympaidd gael ei daro oddi ar ei feic.

Mae o mewn cyflwr difrifol.

Honnir na wnaeth gyrrwr y car stopio.

"Mae'n broblem gynyddol gyda gyrwyr," meddai Mr Owen.

"Mae yna fwy o bobl yn reidio beic ac mae nifer y damweiniau ar gynnydd."

Dywedodd fod angen gwneud gyrwyr yn fwy ymwybodol o feicwyr.

"Mae'r rhan fwyaf yn oddefgar ond mae yna rai sy am roi amser caled i feicwyr."

Dywedodd y dylai'r awdurdodau a Llywodraeth Cymru weithredu.

Mae yna fwy o bobl yn reidio beic ac mae nifer y damweiniau ar gynnydd
Bill Owen

Roedd Mr Richardson 44 oed o Borthcawl yn teithio ar yr A48 pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad am 9.40am ger Ty Crack Hill.

Mae gyrrwr fan 59 oed o'r Bont-faen wedi cael ei arestio.

Enillodd Mr Richardson ddwy fedal aur a medal arian yng Ngemau Paralympaidd Beijing yn 2008.

Dywedodd cyfaill iddo Edna Smyth, sy'n aelod o dîm Paralympaidd Iwerddon, fod y ffyrdd yn llefydd mwy peryglus.

"Mae'n ofnadwy fel mae pethau ar y lonydd," meddai.

"Yn bendant maen nhw'n fwy peryglus."

Mae yna 2,000 o aelodau mudiad British Cycling yn byw yng Nghymru.

Casglu barn

Dywed y corff eu bod wedi delio gyda 40 o achosion dros gyfnod o ddwy flynedd lle mae aelodau yn hawlio iawndal yn dilyn damweiniau.

Dywedodd Martin Gibbs, llefarydd ar ran British Cycling: "Mae'n bwnc llosg ymhlith yr aelodau.

"Ar hyn o bryd rydym yn cynnal arolwg er mwyn casglu barn ar y mater."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn rhoi cyllid i'r cynghorau lleol er mwyn gwella diogelwch beicwyr ar y ffyrdd.

"Byddwn yn parhau i gydweithio gyda'r awdurdodau lleol a mudiadau fel Sustrans er mwyn lleihau nifer y damweiniau," meddai llefarydd.



HEFYD
Anafu beiciwr Paralympaidd
17 Awst 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific