British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Awst 2011, 05:38 GMT 06:38 UK
Pwy yn union sy'n berchen pier?

Pier Bae Colwyn tua 1930
Cafodd y peir ei adeiladu tua 1900

Mae ansicrwydd ynglŷn â phwy yn union sydd yn berchen ar bier Bae Colwyn.

Bu'r adeilad ar gau dros y tair blynedd diwethaf ac mae o wedi ei roi yn nwylo ymddiriedolwr sy'n gofalu am fentrau sy'n fethdal.

Yn gynharach y mis hwn fe wnaeth y pier ddirywio gyda rhan o'r llawr yn disgyn i'r promenâd.

Ar ôl hynny fe wnaeth yr Ymddiriedolwr benderfynu rhoi'r gorau i'w ddyletswyddau gofal.

Gwaith adnewyddu

Mae'r cyn berchennog, a wnaed yn fethdal yn 2008, nawr yn credu y dylai gael y pier yn ôl.

Ond dywed cyfreithwyr sy'n gweithredu ar ran yr Ymddiriedolwr y bydd yr adeilad nawr yn mynd i ofal cyfreithiwr Trysorlys y Deyrnas Unedig.

Mae angen datrys pwy yn union sydd yn berchen yr adeilad cyn i unrhyw waith adnewyddu ddechrau.

Dywed Bwrdd Rheoli Cyngor Conwy eu bod yn awyddus i brynu'r pier, adeilad Fictorianaidd Gradd II.

Canolbwynt

Ond yn gyntaf bydd angen sêl bendith y cyngor llawn.

Y nod wedyn fyddai rhoi'r adeilad ar les i grŵp lleol sydd am adfer yr adeilad.

Credir fod angen gwario tua £3.5 miliwn er mwyn ei adnewyddu.

Cafodd ei adeiladu ym 1900 ac roedd unwaith yn ganolbwynt bywyd cymdeithasol Bae Colwyn.

Byddai'n costio dros £1 miliwn i'w ddymchwel.



HEFYD
Adnewyddu pier yn hwb i ymwelwyr
18 Hyd 10 |  Newyddion
Trafod dyfodol pier glan mr
07 Ebr 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific