British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 18 Awst 2011, 15:14 GMT 16:14 UK
Taith pererinion wedi dod i ben

Chris a Jenny Potter
Chris a Jenny Potter benderfynodd ceisio sefydlu taith pererin yng ngogledd Cymru.

Mae'r pererinion cyntaf i gerdded Taith Pererin Gogledd Cymru wedi cyrraedd Ynys Enlli ar ôl 11 diwrnod.

Llwyddodd 13 o bobl gerdded y daith 150 milltir (241km) oedd yn 23 milltir (37km) yn hwy na'r disgwyl.

Dywedodd Deon Llanelwy, Y Tra Pharchedig Chris Potter, fod y fintai yn teimlo eu bod nhw wedi cyflawni gweithred bwysig.

Y Ddeon a'i wraig, Jenny, benderfynodd ceisio sefydlu taith pererin yng ngogledd Cymru ar ôl cerdded i Santiago de Compostela yn Sbaen.

Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai pererindod at fy nant i ond rydw i wedi mwynhau'r profiad yn fawr iawn
Ron Williams

Cyrhaeddodd y pererinion Ynys Enlli, sydd wedi bod yn lleoliad pererindod am ganrifoedd, tua 10am ddydd Iau.

Dywedodd Mr Potter: "Rydyn ni wedi cerdded trwy drefi, pentrefi a dinasoedd gan ddioddef tywydd garw a thywydd mwyn.

Coeden ywen

"Rydyn ni wedi cael croeso anhygoel gan bobl wrth i ni gerdded."

Bendithiodd Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Dr Gregory K Cameron, y cerddwyr wrth iddyn nhw ddechrau ar ran cyntaf eu taith ddydd Sul Awst 7.

Ynys Enlli
Gorffennodd y daith pererin ar Ynys Enlli, sydd wedi bod yn fan bererindod am ganrifoedd.

Ffynnon Gwenffrewi oedd un o'r llefydd cyntaf ar y daith.

Cyn dechrau'r fenter, dywedodd Dr Cameron: "Rydyn ni ar ben ein digon fod y bererindod yn cael ei chynnal.

"Roedd gan Chris a Jenny Potter y weledigaeth i agor llwybr y byddai pererinion yn gallu teithio arni ac mae'r weledigaeth honno yn awr wedi cael ei gwireddu."

Mae Archesgob Caergrawnt, Dr Rowan Williams, yn noddwr y daith.

Roedd y daith yn mynd heibio canolfan Sant Beuno yn Nhremeirchion, Sir Ddinbych.

Roedd y daith hefyd yn mynd â'r cerddwyr i Eglwys Sant Digain yn Llangernyw, Conwy, lle mae coeden ywen hynafol.

Dywedodd un o'r fintai, Ron Williams: "Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai pererindod at fy nant i ond rydw i wedi mwynhau'r profiad yn fawr iawn."

Gobeithir y bydd y daith yn hybu twristiaeth mewn ardaloedd gwledig ac yn mynd â phobl tu hwnt i ganol dinas Bangor a'i Gadeirlan.



HEFYD
Lluniau: taith bererindod newydd
11 Awst 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific