British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 18 Awst 2011, 10:41 GMT 11:41 UK
Pris tir amaethyddol wedi codi

Llyndy Isaf, Eryri
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ceisio codi £1m i brynu fferm Llyndy Isaf yn Eryri

Mae tir amaethyddol yng Nghymru ymysg y drytaf ym Mhrydain, yn ôl arolwg newydd.

Canfu Sefydliad Brenhinol y Tirfesurwyr Siartredig (RICS) fod ffermydd mawr yn ceisio ehangu yn sgil prisiau uwch anifeiliaid.

Mae pris tir amaethyddol yng Nghymru ar gyfartaledd yn £6,500 yr erw, sef y pris uchaf ym Mhrydain heblaw am Ogledd Orllewin Lloegr.

Mae pris tir amaethyddol rhataf yn Yr Alban a Gogledd Ddwyrain Lloegr.

Ehangu

Dywedodd llefarydd ar ran y RICS, Sue Steer: "Mae pris tir amaethyddol yng Nghymru wedi codi i fod ymysg y drytaf ym Mhrydain.

"Mae prisiau nwyddau sylfaenol yn parhau'n uchel iawn felly mae llawer o ffermwyr masnachol yn ymddangos yn fwy awyddus i ehangu eu busnesau yn hytrach na gwerthu eu tir.

"Gall hyn ddim ond arwain at brisiau uwch fyth yn ystod y flwyddyn nesaf."

Dywedodd Llywydd Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, Ed Bailey, ei fod yn hapus ond wedi ei synnu bod pris tir amaethyddol yng Nghymru mor uchel.

"Mae hyn yn dangos bod ffermio yng Nghymru yn ffynnu a bod gan fanciau digon o ffydd i fenthyg arian i ffermwyr," meddai.

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones, fod pris tir amaethyddol yn uchel yng Nghymru am fod rhai ffermwyr eisiau prynu tir cyfagos, yn enwedig lleiniau o dir sydd yn llai na 20 erw.

"Fel arfer mae llain fechan o dir sydd yn llai na 20 erw yn ddrutach yn enwedig pan nad oes tŷ fferm ynghlwm iddo

"Mae ffermydd yn cael eu rhannu pan maen nhw ar werth a hyn sydd yn codi pris tir amaethyddol.

"Mae'r tŷ, yr adeiladau a darn bychan o dir sydd yn llai na 10 erw yn cael eu gwerthu ar wahân i'r tir amaethyddol."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific