Mae ymgyrchwyr wedi codi pryderon am y posibilrwydd y bydd rhagor o beilonau trydan yn cael eu codi ar Ynys Môn.
Fe fydd y strwythur newydd yn angenrheidiol ar gyfer cynlluniau ynni'r ynys sy'n cynnwys gweld atomfa newydd, Wylfa B, fferm wynt yn y môr a chanolfan biomas.
Ond mae ffermwyr a chadwraethwyr am weld unrhyw geblau yn mynd o dan y môr i ganolfan y Grid Cenedlaethol ar Lannau Dyfrdwy.
Dywed y Grid Cenedlaethol fod angen mwy o beilonau er mwyn trosglwyddo'r ynni o ail atomfa pe bai honno'n cael ei chodi.
Fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal.
Cyfarfod
Dywedodd Sasha Davies, Cyfarwyddwr Rhaglen Ynys Ynni, Ynys Môn, fod y cyngor yn ymwybodol o'r angen am strwythur newydd i ddelio gyda'r cynlluniau arfaethedig.
"Mewn byd delfrydol, ia, fe fydden ni gyd yn dewis yr opsiwn o dan y môr.
"Ond mae angen bod yn ymarferol ac mae angen swyddi yma ar yr ynys."
Cafodd cyfarfod rhwng arweinwyr y ffermwyr a'r Grid Cenedlaethol ei gynnal yr wythnos diwethaf.
Dywedodd Dewi Jones, Cadeirydd NFU Ynys Môn, fod aelodau yn "bryderus iawn iawn" am y posibilrwydd o beilionau ychwanegol ar yr ynys.
"Dydi'r undeb ddim yn erbyn Wylfa B gan y bydd yn ennyn swyddi yma ond fydd cael mwy o beilonau ddim yn fanteisiol."
Mae Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn annog gosod y cysylltiadau o dan y môr hefyd.
Dywedodd Martin Kinsey, rheolwr prosiect gyda'r Grid Cenedlaethol fod ganddyn nhw swydd bwysig i'w gwneud i ddiweddaru a gwella rhwydwaith trydan yng ngogledd Cymru.
Fe fydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cychwyn y flwyddyn nesaf.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.