British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 17 Awst 2011, 19:52 GMT 20:52 UK
Beiciwr Paralympaidd wedi'i anafu wedi damwain

Simon Richardson
Dyfarnwyd yr MBE i Simon Richardson yn 2009 ar l iddo ennill dwy fedal aur yn y Gemau Olympaidd

Mae medalydd aur Paralympaidd wedi ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl achos taro a ffoi ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.

Mae dyn 59 oed o ardal Y Bont-faen wedi'i arestio.

Mae Heddlu De Cymru yn chwilio am dystion i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd am 9.40am ddydd Mercher ger Tŷ Crack Hill.

Yn ôl yr heddlu fe gafodd y seiclwr Simon Richardson, 44 oed, o Borthcawl, ei daflu o'i feic i ochr y ffordd cyn i'r fan yr oedd mewn gwrthdrawiad yrru yn ei flaen.

Yna bu dau gar arall mewn gwrthdrawiad yn yr un lleoliad, sef Toyota Avensis estate du oedd yn cael ei yrru gan ddyn 43 oed a Rover 25 oedd yn cael ei yrru gan fenyw 74 oed.

Dwy fedal aur

Cafodd Richardson a'r fenyw eu trin gan aelodau o'r gwasanaeth ambiwlans yn y fan a'r lle.

Aed â Richardson mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ac mae'n cael triniaeth yno am sawl anaf.

Simon Richardson
Aed Richardson mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Caerdydd

Aed â'r fenyw i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-Bont ar Ogwr a chafodd driniaeth am anafiadau i'w brest ond fe'i rhyddhawyd o'r ysbyty yn ddiweddarach.

Cafodd y ffordd ei gau am bedair awr wrth i'r heddlu dechrau eu hymchwiliadau.

Mae Heddlu De Cymru eisiau siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu oedd yn teithio rhwng Y Bont-faen â Phen-y-bont ar Ogwr ar yr A48.

Dyfarnwyd yr MBE i Richardson yn 2009 ar ôl iddo ennill dwy fedal aur ac un fedal arian yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific