British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 17 Awst 2011, 12:24 GMT 13:24 UK
Cynnydd yn nifer y di-waith yng Nghymru

Bu cynnydd o 10,000 yn nifer y di-waith yng Nghymru, gan olygu fod 122,000 yn ddi-wath.

Mae'r cynnydd yn golygu fod 8.4% heb waith yng Nghymru, sef y canran uchaf o holl wledydd Prydain yn ôl Ystadegau Marchnad Llafur.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan fod y ffigyrau yn dangos yr angen am dwf economaidd.

Mae'r cyfanswm di-waith yn 5,000 yn llai na'r un cyfnod y llynedd.

Bu cynnydd o 2,100 yn nifer y rhai sy'n hawlio budd-dal i 77,000.

Mae 7.9% o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn ddi-waith, (Lloegr 7.9%, Yr Alban 7.7% a Gogledd Iwerddon 73%)




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific