British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 17 Awst 2011, 11:44 GMT 12:44 UK
Cysylltiadau band eang gwael mewn dwy dref

Gwifrau
Tregaron yn sbotun du o ran cysylltiadau band eang.

Mae dwy dref yng nghanolbarth Cymru wedi eu henwi fel dau o'r llefydd gwaetha ar gyfer cyflymdra cysylltiadau band eang.

Dywed uSwitch.com fod Tregaron a Llanbedr Pont Steffan ymhlith yr 20 lle gwaethaf ym Mhrydian.

Mae pobl yn y ddwy dref yn dweud fod arafwch band eang yn broblem i fusnesau.

Yn ôl yr arolwg, Tregaron yng Ngheredigion yw'r ail le gwaethaf ym Mhrydain.

Cranbrook yng Nghaint yw'r gwaethaf.

Dywedodd Duncan Taylor, sy'n ymgyrchu i wella cysylltiadau band eang yn Nhregaron, nad oedd o wedi ei synnu gan y canlyniadau.

"Mae'n broblem i fusnesau, mae'n gallu bod yn niweidiol iawn," meddai wrth BBC Cymru.

Dywedodd fod problemau hefyd wrth dderbyn gwasanaethau mae pobl eraill yn cymryd yn ganiataol.

'Rhy hir'

"Gyda phethau fel iPlayer y BBC mae'n rhaid ei lawrlwytho dros nos a gobeithio nad oes yna unrhyw namau technegol.

"Mae'n cymryd yn rhy hir, gyda'r cylch bach yn ymddangos yn gyson tra da chi'n ceisio gwylio rhaglen."

Dywedodd Mr Taylor fod un ardal o fewn y gymuned yn bwriadu codi trosglwyddydd eu hunain er mwyn gwella'r ddarpariaeth.

"Rydym wedi sicrhau'r rhan fwyaf o arian ac wedi cael caniatâd cynllunio.

"Rydym yn gobeithio y bydd y gwasanaeth newydd ar gael erbyn diwedd y flwyddyn nesa.

"Dywed cwmnïau masnachol na fyddai modd iddynt gynnal menter o'r fath."



HEFYD
Diffyg gwasanaeth band eang
19 Gorff 10 |  Newyddion
Band eang Sioe Mn
09 Awst 11 |  Newyddion
Band eang: "Cymru'n dioddef"
31 Mai 11 |  Newyddion
Band eang i gymuned
01 Maw 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific