British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 17 Awst 2011, 06:56 GMT 07:56 UK
Teyrngedau i'r actor Huw Ceredig

Huw Ceredig
Caiff Huw Ceredig ei gofio'n bennaf am ei ran fel Reg Harries yn yr opera sebon Pobol y Cwm

Parhau i gael eu talu y mae teyrngedau i'r actor Huw Ceredig.

Bu farw yn 69 oed wedi salwch hir.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am actio'r cymeriad Reg Harries yn y gyfres Pobol Y Cwm am 29 mlynedd.

Ond bu hefyd yn actio mewn dramâu llwyfan ac mewn ffilmiau yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae'n gadael gwraig, Margaret, dwy ferch ac wyrion.

Dywedodd ei gyd-actores ym Mhobol Y Cwm, Lisabeth Miles, fod Huw Ceredig yn gwneud i'w gyd-actorion "deimlo'n gartrefol".

"Er ei bresenoldeb pendant a chadarn, doedd o ddim yn actor hunanol," meddai'r actores fu'n chwarae rhan Megan, gwraig Reg Harries.

"Roedd ei gymeriad yn bwysig iddo fo.

"Roedd ei le o o fewn y teulu yn Y Deri Arms yn bwysig, roedd o'n hael fel actor ac roedd ei gyfraniad o fel yna yn holl bwysig, yn teimlo'n ddiogel yn ei bresenoldeb ac fe wnes i fwynhau gweithio efo fo."

'Lwcus iawn'

Dywedodd yr actor Ioan Gruffudd, oedd yn chwarae rhan Gareth Wyn yn y gyfres, fod ganddo ddyled enfawr i Huw Ceredig.

"Ar Pobol Y Cwm y ces i fy nechreuad ac roedd Huw Ceredig yn ddylanwad enfawr arna i.

Reg Harries a'i deulu ym Mhobol y Cwm
Bu'n actio rhan Reg Harries ym Mhobol y Cwm am 29 mlynedd

"Roedd fel mentor a dweud y gwir. Fe ddysgodd e i mi sut i fyhafio fel actor ifanc, sut i ddysgu fy ngeiriau, sut i fod y broffesiynol ac yn fwy na dim sut i fwynhau.

"Fe fues i'n lwcus iawn yn fy arddegau....cael magwraeth anghredadwy fel actor ifanc dan law Huw Ceredig.

"Fe fues i'n lwcus iawn ei fod o wedi bod yn rhan o fy mywyd i."

Un arall fu'n cyd-actio â Huw Ceredig, ond wedyn a fu'n cynhyrchu'r gyfres, ydi Terry Dyddgen-Jones.

"Fues i ynghlwm â sawl stori a straeon cryf wrth gynhyrchu Pobol Y Cwm a Huw yn gallu cymryd pob un o'r straeon yma a'i wneud i weithio.

"Roedd hyn yn rhan o ddawn a chrefft actor i gymryd deunydd fel yna a'i wneud o'n fyw.

"Dyna fyddai'n ei gofio am Huw.

"Dwi hefyd yn cofio'r dyddiau cynnar pan oeddwn i'n gweithio efo fo fel actor ifanc yn y gyfres.

"Roedd yn un o gewri'r gyfres pryd hynny a dwi'n gwybod y bydd 'na golled enfawr ar ei ôl."

Ychwanegodd y cynhyrchydd John Hefin ei fod yn gyfforddus iawn i fentro gweithio yn y ddwy iaith.

"Roedd yn hapus dwi'n meddwl yn y ddwy iaith.

"Fel Fatty Lewis roedd yn ardderchrog yn Twin Town a holl allu hiwmor comedi Huw yn dod i'r amlwg.

"Roedd e'n hoffi'r camera a dwi'n meddwl bod y camera yn hoffi Huw ac mae hwnnw yn rhywbeth prin iawn."



HEFYD
Huw Ceredig wedi marw
16 Awst 11 |  Newyddion
Diwedd ar Reg yng Nghwmderi
21 Chwef 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific