British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 16 Awst 2011, 19:59 GMT 20:59 UK
Ffrae dros alw’r Gymraeg yn ‘iaith mwnci’

Jonathan Edwards AS
Mae Mr Edwards wedi cyfeirio'r mater at Gomisiwn Cwynion y Wasg

Mae Aelod Seneddol wedi cwyno am adolygiad llyfr sy'n disgrifio'r iaith Gymraeg fel "iaith mwnci farwaidd".

Mae AS Plaid Cymru Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, a ydy'r erthygl yn y Daily Mail yn torri cyfreithiau hilgasedd.

Defnyddiodd yr adolygydd, Roger Lewis, y term yn ei adolygiad o lyfr Jasper Rees, Bred of Heaven yn y papur.

Dywedodd Mr Rees fod Mr Lewis wedi defnyddio'r llyfr i greu "dadl ddibwrpas".

Mae'r erthygl yn awgrymu fod cenedlaetholdeb Cymreig yn rhyw fath o salwch meddwl
Jonathan Edwards AS

Mae llyfr Mr Rees yn adrodd hanes ei daith i geisio ail-gydio yn ei wreiddiau Cymreig gan geisio dysgu'r Gymraeg.

Ond yn ei adolygiad o'r llyfr yn rhifyn Awst 12 o'r Daily Mail dywedodd Mr Lewis, a gafodd ei eni yng Nghaerffili, fod y Gymraeg yn "iaith mwnci marwaidd ofnadwy".

'Gwlad estron'

"Y broblem gyda'r iaith Gymraeg yw mai nad arfer hen ffasiwn sydd wedi'i hadfer ydyw, ond iaith sy'n cael ei gwthio ar bobl am resymau gwleidyddol," meddai.

"Rwy'n casáu'r ffaith bod Cymru wedi'i throi'n wlad estron gyda gorsaf radio Gymraeg, sianel deledu Gymraeg ac arwyddion ffyrdd dwyieithog."

Dywedodd yr AS ei fod wedi cyfeirio'r mater at Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu a Chomisiwn Cwynion y Wasg (PCC).

Hefyd, mae Mr Edwards wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref yn gofyn am gyngor ynglŷn â chyfraith hilgasedd.

"Mae'r erthygl yn awgrymu fod cenedlaetholdeb Cymreig yn rhyw fath o salwch meddwl.

"Mae'r erthygl yn ymdebygu i'r math o iaith sy'n cael ei gysylltu â ffasgwyr.

"Dywedir yn aml mai casáu'r Cymry yw'r unig hiliaeth dderbyniol sydd ar ôl.

"Mae erthyglau fel hyn yn atgyfnerthu'r gred honno."

Mae awdur y llyfr, Mr Rees, wedi beirniadu'r erthygl ar ei dudalen ar wefan Facebook.

Dywed: "Rwy'n poeni'n aml ei bod yn ystrydeb dweud mai teimladau gwrth-Gymreig yw'r unig hiliaeth dderbyniol sydd ar ôl ond yna mae erthygl fel hon yn ymddangos yn un o bapurau dyddiol Llundain."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific