British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 16 Awst 2011, 16:48 GMT 17:48 UK
Gatland yn obeithiol am Jenkins

Gethin Jenkins
Dyw Gethin Jenkins ddim wedi chwarae yn gystadleuol ers mis Ionawr

Mae hyfforddwr rygbi Cymru, Warren Gatland, yn obeithiol y bydd y prop Gethin Jenkins ar gael ar gyfer Cwpan y Byd fis nesa'.

Daeth cadarnhad eisoes na fydd y canolwr Gavin Henson na'r bachwr Matthew Rees ar gael i chwarae yn Seland Newydd oherwydd anafiadau.

Cafodd Jenkins, sydd wedi ennill 76 o gapiau dros ei wlad, lawdriniaeth ar fawd ei droed saith mis yn ôl ac wedyn bu'n diodde' gydag anaf i'w goes.

Fydd o'n bendant ddim ar gael ar gyfer gêm agoriadol Cymru yng Nghwpan y Byd, yn erbyn De Affrica ar Fedi 11.

Dyw Jenkins ddim wedi chwarae rygbi ers anafu ei goes ym mis Ionawr.

"Fe gafodd sgan arall ac mae rhywfaint o niwed i'w goes ac mae'n gweld arbenigwr yr wythnos hon," meddai Warren Gatland.

'Rhwystredig'

"Mae hynny'n golygu na fydd ar gael ar gyfer gêm De Affrica mae'n debyg, gêm gynta'r daith os fydd yn cael ei ddewis.

"Mae'n bryder i ni, mae o'n teimlo mor rhwystredig â phawb; mae wedi gweithio'n galed iawn, fel pob un o'r chwaraewyr cyn dechrau'r tymor a dyw e ddim wedi gallu gwella'n iawn."

Dyw prop pen rhydd Gleision Caerdydd ddim wedi chwarae i Gymru ers iddyn nhw golli o 25-37 yn erbyn Seland Newydd ddiwedd mis Tachwedd y llynedd.

"Mae wedi gwneud llawer o waith yn ceisio cael y goes yn iawn," ychwanegodd Gatland.

"Ond 'da ni'n gwybod pa mor dda ydy e fel chwaraewr, felly'r gobaith yw y bydd yn dangos arwyddion o wella ac y gall, o bosib, gael ei ystyried ar gyfer gemau eraill yng Nghwpan y Byd."

Mae Cymru eisoes wedi colli Morgan Stoddart ar ôl iddo dorri ei goes yn ystod y golled i Loegr yn Twickenham bythefnos yn ôl.

Bydd y canolwr Gavin Henson hefyd yn colli dechrau Cwpan y Byd wedi iddo anafu ei arddwrn yn ystod y fuddugoliaeth dros Loegr, pan ddychwelon nhw i Gaerdydd ddydd Sadwrn diwetha'.

Bydd Gatland yn gobeithio na fydd y gêm baratoadol yn erbyn Ariannin yn arwain at ragor o anafiadau i'w chwaraewyr.

Newidiadau

Mae naw newid wedi'u cyhoeddi i'r tîm i wynebu'r Ariannin ddydd Sadwrn.

Ymhlith yr olwyr, mae Lee Byrne a Leigh Halfpenny yn dychwelyd ac mae Jonathan Davies yn cymryd lle Gavin Henson yn y canol. Bydd Tavis Knoyle yn dechrau ei gêm baratoadol gyntaf o'r haf.

Mae profiad Adam Jones yn cael ei ychwanegu at y rheng flaen wrth ochr Richard Hibbard, sydd bellach yn holliach ar ôl llawdriniaeth i'w ysgwydd.

Dychwelyd i'r ail reng fydd Bradley Davies a bydd Martyn Williams un cap i ffwrdd o gyrraedd y cant ar ôl ddydd Sadwrn. Ryan Jones fydd capten y tîm am yr 28fed tro, gan gyrraedd record Ieuan Evans.

Mae'r tîm yn hyderus y gallan nhw adeiladu ar y fuddugoliaeth ddiweddar yn erbyn Lloegr.



HEFYD
Henson wedi cael llawdriniaeth
14 Awst 11 |  Newyddion
Cymru 19-9 Lloegr
13 Awst 11 |  Newyddion
Amheuaeth am gapten Cymru
12 Awst 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific