British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 16 Awst 2011, 17:03 GMT 18:03 UK
Huw Ceredig wedi marw

Colli un o actorion mwya Cymru

Mae'r actor Huw Ceredig wedi marw yn 69 mlwydd oed wedi salwch hir.

Roedd yn fwya' adnabyddus am ei ran yn chwarae Reg Harries yn yr opera sebon boblogaidd, Pobol y Cwm.

Bu'n actio yn y gyfres am 29 mlynedd.

Bu hefyd yn actio rhan Fatty Lewis yn y ffilm Twin Town, yn ogystal ag ymddangos yn Z Cars, Enoc Huws a Hawksmoor.

'Presenoldeb enfawr'

Roedd Mr Ceredig, a gafodd ei eni ym Mrynaman ym 1942, hefyd yn actor llwyfan profiadol.

Roedd yn un o bedwar o feibion y Mans, yn frawd mawr i'r gwleidydd a'r canwr, Dafydd Iwan, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon, Alun Ffred Jones, ac Arthur Morris.

Mae'n gadael gwraig, Margaret, dwy ferch ac wyrion.

Huw Ceredig
Roedd Huw Ceredig wedi bod yn sl am gyfnod hir

Cafodd hunangofiant Huw Ceredig, 'Pwy Ydw I' gydag Aled Islwyn, ei gyhoeddi gan Wasg y Dref Wen yn 2006.

Cafodd ei fagu yna yn Y Mans yn Llanuwchllyn ac yn ei hunangofiant mae'n cyfeirio ato'i hun fel Tedi Boi cynta'r pentre.

Mae'r hunangofiant yn un hynod o onest ac yn datgelu uchelfannau yn ogystal â threialon dirdynnol ei fywyd.

Roedd ganddo ddiddordeb brwd mewn chwaraeon, yn gyn-gadeirydd Clwb Rygbi Pen-y-Bont ar Ogwr, ac yn gefnogwr o bêl-droed a rasio ceffylau.

Dau ddiddordeb arall oedd ganddo oedd teithio a garddio.

Dywedodd Keith Jones, Cyfarwyddwr BBC Cymru: "Mae'r newyddion am farwolaeth annhymig Huw Ceredig yn un sydd wedi'n hysgwyd i gyd yma yn BBC Cymru.

"Bu Huw yn bresenoldeb enfawr yma yn y ganolfan ddarlledu yn y 29 mlynedd y bu'n portreadu un o gewri'r sgrin fach, Reg Harries yn Pobol y Cwm.

"Fe gafodd lwyddiant, a dilyniant, y tu hwnt i Pobol y Cwm wrth gwrs mewn amrywiol gynyrchiadau fel Twin Town a'r Pris.

"Hoffwn dalu teyrnged iddo a diolch iddo am ei gyfraniad i Pobol y Cwm dros y blynyddoedd.

'Cymeriad lliwgar'

Roedd Huw Ceredig hefyd yn llais cyfarwydd i genedlaethau o blant drwy ei waith yn trosleisio cyfresi fel SuperTed ac yn fwy diweddar Meees a ymddangosodd ar S4C.

Wrth dalu teyrnged dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones: "Roedd Huw Ceredig yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd â phoblogaidd S4C o'r cychwyn cyntaf.

"Roedd yn actor talentog ac yn gymeriad lliwgar a chynnes.

"Bu'n llysgennad brwd dros y Gymraeg drwy Gymru gyfan a bydd bwlch mawr ar ei ôl."



HEFYD
Diwedd ar Reg yng Nghwmderi
21 Chwef 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific