British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 16 Awst 2011, 13:42 GMT 14:42 UK
Moch daear: 'Angen amserlen'

Mochyn Daear
Mae'r cynllun difa wedi ei atal dros dro

Mae un o'r undebau amaethyddol wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o lusgo traed wrth osod amserlen i'r panel sy'n astudio gwerth cynllun difa moch daear.

Dywedodd Stephen James, dirprwy lywydd NFU Cymru, fod angen datganiad clir gan y llywodraeth ynglŷn â'r camau nesa' i geisio gwaredu TB mewn gwartheg.

Mae nifer yn credu fod y diciâu yn lledu trwy foch daear.

Gwnaeth Mr James ei sylwadau yn ystod Sioe Sir Benfro ddydd Mawrth.

Mae'r undebau eisoes wedi beirniadu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin i atal y cynllun difa yng ngogledd Sir Benfro.

Yn hytrach penderfynwyd penodi panel i arolygu'r dystiolaeth wyddonol.

Dywedodd Mr James nad oes amserlen benodol wedi'i llunio ar gyfrer gwaith y panel.

Sioe Sir Benfro
Gwnaeth Stephen James ei sylwadau yn ystod Sioe Sir Benfro ddydd Mawrth

"Rydym angen amserlen benodol er mwyn i'r panel gyflwyno eu casgliadau i'r llywodraeth....ac yna datganiad clir gan y llywodraeth ynglŷn â'r camau nesa' sydd eu hangen er mwyn gwaredu'r haint."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn benderfynol o waredu TB.

"Does dim oedi wedi bod. Fe wnaeth y Gweinidog gyhoeddi'r angen am arolwg ym mis Mehefin. Cafodd yr Athro Christopher Gaskell ei benodi'n gadeirydd y panel ym mis Gorffennaf ac yn gynharach y mis hwn cyhoeddwyd enwau'r panel.

"Mae disgwyl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi yn yr hydref."



HEFYD
Dim difa moch daear am y tro
21 Meh 11 |  Newyddion
Moch daear: Disgwyl datganiad
21 Meh 11 |  Newyddion
Difa moch daear: Diweddaraf
08 Meh 11 |  Newyddion
Moch daear: Celu enwau ffermwyr?
20 Mai 11 |  Newyddion
Moch daear: Cyngor cyfreithiol
24 Maw 11 |  Newyddion
Moch daear: Pleidleisio i'w difa
23 Maw 11 |  Newyddion
Cais arall i ddifa moch daear
09 Maw 11 |  Newyddion
Hysbysebion yn gamarweiniol
22 Rhag 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific