British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 16 Awst 2011, 11:29 GMT 12:29 UK
Myfyrwyr: Miloedd heb le prifysgol?

Myfyrwyr
Bydd disgbylion yn derbyn eu canlyniadau safon uwch ddydd Iau

Mae pennaeth undeb y myfyrwyr yng Nghymru wedi rhybuddio myfyrwyr y gallai miloedd ohonynt fethu a chael lle mewn prifysgol eleni.

Daw rhybudd Luke Young wrth i filoedd ddisgwyl am ganlyniadau safon uwch ddydd Iau.

Mae Mr Young yn galw am fwy o help i fyfyrwyr sy'n methu a sicrhau'r graddau angenrheidiol.

Dywed pennaeth y corff Prydeinig sy'n gyfrifol am leoli myfyrwyr, UCAS, eu bod yn amcangyfrif na fydd 20,000 yn sicrhau lle mewn prifysgol eleni.

Yn ôl Mary Curnock Cook, byddai hyn 3,000 yn uwch na'r llynedd.

"Rydym yn debygol o weld miloedd o fyfyrwyr yn methu a sicrhau lle ym mis Medi," meddai Ms Cook wrth BBC Cymru.

"Bydd hyn yn ergyd i nifer o unigolion, a bydd yn rhaid iddyn nhw ailasesu eu cynlluniau.

"Ond rydym hefyd angen cadw llygad ar fyfyrwyr sy'n digalonni gyda'r holl broses, a sicrhau nad ydynt yn colli cyfleoedd yn y byd addysg neu mewn hyfforddiant pellach."

Dywedodd fod y system bresennol yn darparu ar gyfer myfyrwyr sy'n methu a sicrhau graddau angenrheidiol.

"Er bod angen i bobl weithredu yn gyflym, os ydyn nhw wedi paratoi o flaenllaw a'u bod yn deall y system, mae'r broses yn gweithio'n dda."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod sicrhau lle mewn prifysgol wastad wedi bod yn broses gystadleuol.



HEFYD
Prifysgol arall yn cyflwyno ffioedd
01 Meh 11 |  Newyddion
Mwy o brifysgolion am godi £9,000
31 Mai 11 |  Newyddion
Caerdydd: Ffioedd o £9,000
24 Mai 11 |  Newyddion
Aberystwyth: Ffioedd o £9,000?
09 Mai 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific