Dywed Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn ei fod yn cydnabod canfyddiadau'r Comisiynwyr
|
Mae'r pum Comisiynydd apwyntiwyd gan Lywodraeth Cymru wedi cyflwyno asesiad o'u tri mis cyntaf ar Ynys Môn. Mae eu hadroddiad chwarterol cyntaf yn casglu bod cynnydd da'n cael ei wneud mewn sawl maes, ond fod dal angen newidiadau sylweddol er mwyn sicrhau "adferiad cynaliadwy hir dymor." Dywed Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn Bryan Owen ei fod yn cydnabod canfyddiadau'r Comisiynwyr. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at yr angen i gryfhau'r canol corfforaethol, gwella prosesau ariannol a chynllunio busnes a symud rhaglenni datblygu economaidd pwysig fel 'Ynys Ynni' a thwristiaeth ymlaen.
 |
Rwyf yn bryderus ers peth amser y byddai arweiniad gwleidyddol gwael yn tanseilio darpariaeth gwasanaethau, ac mae adroddiad y Comisiynwyr yn cadarnhau hynny
|
Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at arwyddion calonogol o safbwynt newid mewn agwedd ag ymddygiad yr aelodau etholedig sydd, ym marn y Comisiynwyr, wedi ymateb yn bositif i ymyrraeth y Comisiynwyr. Mae'r Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant AC, yn ystyried yr adroddiad a'i argymhellion. 'Cydweithio' Dywedodd y Comisiynydd Mick Giannasi: "Ar ôl gweithio yn agos gydag aelodau a swyddogion am nifer o fisoedd nawr, rydym wedi datblygu dealltwriaeth glir o'r hyn sydd angen ei wneud er mwyn gwneud wir wahaniaeth yma ym Môn. "Dyw gwasanaethau Môn ddim wedi torri o bell ffordd ond mae yna wendidau ac mae angen gwneud llawer mwy er mwyn sicrhau fod gwasanaethau wedi'i dylunio i gyfarfod ag anghenion a dymuniadau'r bobl sydd yn eu defnyddio." Tasg allweddol Cyhoeddodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol Carl Sargeant AC ar 16 Mawrth 2011 byddai comisiynwyr yn cael ei benodi i redeg Cyngor Ynys Môn ar ôl methiant i wneud y newidiadau yr oedd wedi pwyso arnynt. Yn dilyn adroddiad beirniadol gan Swyddfa Archwilio Cymru, dywedodd Mr Sargeant nad oedd ganddo unrhyw ddewis ond i gymryd camau llym a chymryd drosodd y gwaith o redeg y cyngor. Dydd Mawrth dywedodd Carl Sargeant: "Rwyf yn croesawu yn enwedig yr arwyddion o newid mewn ymddygiad ag agwedd aelodau etholedig." ?"Fodd bynnag, nid wyf wedi synnu clywed bod rhai gwendidau wedi eu darganfod yng nghanol corfforaethol y Cyngor a rhai gwasanaethau. "Rwyf yn bryderus ers peth amser y byddai arweiniad gwleidyddol gwael yn tanseilio darpariaeth gwasanaethau, ac mae adroddiad y Comisiynwyr yn cadarnhau hynny. "Y dasg allweddol nawr yw datrys y gwendidau yma mewn modd effeithiol a chynaliadwy." Dywedodd Cynghorydd Bryan Owen, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn ei fod yn cydnabod canfyddiadau'r Comisiynwyr ac yn falch fod yr adroddiad yn cyfeirio at arwyddion calonogol o safbwynt agwedd Cynghorwyr Sir Ynys Môn. Ychwanegodd: "Yn sicr, teimlaf fod ysbryd o gydweithio ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn bodoli ar hyn o bryd.
|