British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 15 Awst 2011, 07:14 GMT 08:14 UK
Yr Elyrch: Barod ar gyfer y tymor newydd

Stadiwm Etihad fydd lleoliad gêm gyntaf Abertawe yn yr Uwchgynghrair
Stadiwm Etihad fydd lleoliad gêm gyntaf Abertawe yn yr Uwchgynghrair

Mae disgwyl bron i 3,000 o gefnogwyr Abertawe deithio i Fanceinion ddydd Llun ar gyfer gêm gyntaf y clwb yn yr Uwchgynghrair.

Dyma'r gêm gyntaf iddyn nhw ar y lefel ucha ers dechrau'r 1980au.

Abertawe yw'r clwb cyntaf o Gymru i chwarae yn yr Uwchgynghrair ar ôl iddyn nhw guro Reading o 4-2 yn Wembley yn rownd derfynol gemau ail chwarae'r Bencampwriaeth ym mis Mai.

Mae'n dipyn o stori gan i'r clwb wynebu gadael y gynghrair yn llwyr bron i wyth mlynedd yn ôl.

"Mae'n mynd i fod yn dipyn o ddigwyddiad," meddai Phil Sumbler, cadeirydd Ymddiriedolwyr Cefnogwyr Abertawe.

"Fe fydd 'na 2,800 o gefnogwyr yn teithio i Fanceinion o bob cwr o'r DU.

"I nifer, maen nhw wedi aros am amser hir iawn ar gyfer hyn."

Ar ddechrau'r Uwchgynghrair yn 1992 roedd yr Elyrch yn wynebu dyfodol ansicr iawn.

Bu bron i'r clwb fynd yn fethdalwyr.

Ond fe ddaeth y cefnogwyr at ei gilydd i achub eu clwb ac mae'r cefnogwyr yn dal i chwarae eu rhan.

Mae ganddyn nhw 19.9% o gyfranddaliad yn y clwb.

"Mae gwersi caled 2001 yn dal i ddylanwadu ar y modd y mae'r clwb yn cael ei redeg hyd heddiw," meddai Mr Sumbler.

Brendan Rodgers yn cael golwg dra gwahanol o Wembley
Chwaraewyr Abertawe yn dathlu ennill dyrchafiad i'r Uwchgynghrair drwy daflu'r rheolwr Brendan Rodgers i'r awyr

Bu'r Elyrch yn yr hen Adran Gyntaf am ddau dymor tan iddyn nhw ostwng i'r Ail Adran yn 1983.

Erbyn hyn fe fyddan nhw ochr yn ochr â rhai o bêl-droedwyr mwyaf cyfoethog y byd.

Ymdopi

Fe orffennodd Manchester City yn drydydd yn y gynghrair y tymor diwethaf ac ennill Cwpan FA.

Mae'r tîm eisoes wedi gwario £90 miliwn ers dechrau'r flwyddyn.

Cred rhai y bydd Abertawe yn elwa tua £90 miliwn ar ôl sicrhau dyrchafiad i'r Uwchgynghrair. .

Ond fel sawl tîm sy'n cyrraedd yr Uwchgynghrair mae rhai yn disgwyl mai Abertawe fydd yn dychwelyd i'r Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor.

"Wyddoch chi ddim sut fydd y tîm yn ymdopi," meddai Mr Sumbler.

"Mae'r garfan yn gryfach nawr nag yr oedd yn y Bencampwriaeth.

"Dwi'n meddwl y gallwn ymdopi, ond dydi hynny ddim yn dweud y bydd yn hawdd.

"Mae'r cefnogwyr wedi arfer gweld y tîm yn ennill yn ddiweddar, fe fydd rhaid addasu a dod i arfer eu gweld yn colli yn erbyn rhai o'r timau mawr."



HEFYD
Llwyfan mawr Abertawe
15 Awst 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific