Bydd Don Wales a'i gar Bluebird Electric yn ceisio torri record arall ym Mhentwyn
|
Ceisiodd gor-wyr Syr Malcolm Campbell i dorri record cyflymdra i geir trydan ar hyd traeth Pentwyn dros y penwythnos. Wedi problemau technegol ddydd Sadwrn fe geisiodd y criw ddydd Sul. Ond daeth yr ymgais i ben gyda Joe Wales yn gyrru'r car Bluebird i dwll ar draeth Pentwyn. Dioddefodd Mr Wales fân anafiadau yn ystod yr ymgais i dorri'r record o 137 mya, record ei dad Don Wales. Mae'r car wedi ei ddifrodi yn yr ymgais. Dywedodd y tîm eu bod "yn siomedig" ond yn falch iawn bod Joe yn iawn ar ôl y ddamwain pan wnaeth y car wyro oddi ar y cwrs ac i'r tywod. Cafodd y record i geir trydan ei sefydlu yn 2000 ar yr un traeth yng ngorllewin Cymru. Mae Don Wales yn wŷr i Syr Malcolm Campbell a dorrodd record cyflymdra'r byd o 146mya yn 1924. Llyn Coniston Ond y bwriad yn y pendraw ydy torri record byd yr Americanwyr am gyflymder car trydan sy'n tynnu at 500 mya erbyn 2013. Mae yna hanes hir i'r traeth ym Mae Caerfyrddin fel lle i geisio torri recordiau byd. Yn 1927, bu farw John Parry Thomas yno pan gafodd ddamwain yn ei gar Babs. Sefydlodd tîm Syr Malcolm Campbell hefyd ym Mhentwyn ac mi dorrodd record y byd deirgwaith yno. Bu farw ewythr i Mr Wales - Donald Campbell - ar Lyn Coniston yn ei gwch cyflym Bluebird yn 1967. Mae Mr Wales, sy'n dad i ddau, wedi treulio dros 10 mlynedd yn datblygu'r car Bluebird Electric er mwyn ceisio gwireddu'i freuddwyd. A fo ei hun sydd wedi ariannu'r ymgais. Mae Mr Wales a'i dîm o 30 o wirfoddolwyr wedi datblygu peiriant allai gael ei defnyddio i yrru unrhyw gar. Yn 1998, bu i Mr Wales dorri'r record Brydeinig drwy wneud 116mya. Yn 2010 fe dorrodd record cyflymdra'r byd peiriant torri gwair. Fe lwyddodd hefyd i gyrraedd cyflymdra o bron i 88 mya ar y peiriant petrol. Y record flaenorol oedd 80.792 mya gafodd ei sefydlu yn yr Unol Daleithiau yn 2006.
|