Y disgwyl yw y bydd Michel Vorm yn chwarae i Abertawe
|
Bydd Abertawe yn chwarae eu gem gyntaf yn yr Uwchgynghrair yn erbyn Manchester City yn Stadiwm Etihad nos Lun. Cred rhai bod ennill dyrchafiad yn gyfystyr a hwb economaidd o £90 miliwn i glwb y ddinas. Nos Lun byddant yn herio un o gewri'r Uwchgynghrair sydd wedi gwario tua £100 miliwn ar brynu chwaraewyr newydd y tymor hwn. Dyma fydd y tro cyntaf i'r ddau dîm wynebu ei gilydd ar y lefel uchaf ers tymor 1982-83, tymor a welodd y ddau dîm yn disgyn o'r Adran Gyntaf i'r Ail Adran. Ymhlith carfan Manchester City fydd Sergio Aguero. Credir bod y clwb o Fanceinion wedi talu £35 miliwn am yr ymosodwr o'r Ariannin. Bydd Danny Graham yn nhîm yr Elyrch. Fe dalodd Abertawe £3.5 miliwn i Watford am yr ymosodwr. Yn ogystal mae gan Yr Elyrch gôl-geidwad newydd, Michel Vorm, ar ôl i Dorus de Vries adael. Ymhlith y chwaraewyr eraill sydd wedi symud i Stadiwm Liberty y mae Leory Lita, Wayne Routledge, Stephen Caulker a Jose Moreira. O ran y gêm nos Lun mae 'na amheuaeth a fydd Monk yn chwarae oherwydd bod ganddo broblem gyda'i droed.
|